Ein bwriad fel Eglwys heno, oedd nodi 'Diwrnod Waldo', a hynny gyda defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Â ninnau’n eistedd mewn cylch, prin fod neb heb sylwi fod y Gweinidog yn fwy anniben yr olwg nag arfer heno: crys-T, ond...wrth i’r cyfarfod ddechrau sylweddolwyd arwyddocâd y crys-T hwnnw!
Darllenwyd Salm 8, a’r Salm fechan fawr honno a’i chwestiwn oesol gyfoes: beth yw dyn, iti ein cofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano (ad.4) agorodd cil y drws ar destun ein myfyrdod heno: Pa Beth yw Dyn? (Dail Pren; Gomer, Argraffiad Newydd 1991). Darllenwyd y gerdd gan y Parchedig Aled Gwyn, ac yn sgil y darllen, arweiniwyd ni drwy’r gerdd fesul cwpled gan y Gweinidog:
Beth yw byw?
Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau...
Mae pawb yn chwilio am fywyd ar ei orau. Os mai neuadd fawr yw bywyd, rhaid deall fod iddi hefyd cyfyng furiau. Mae Duw yng Nghrist yn cynnig ehangder y neuadd fawr o fewn cyfyng furiau ei ewyllys ef ar ein cyfer.
Beth yw adnabod?
Cael un gwraidd dan y canghennau...
Mae adnabod yn ddyfnach na gwybod. Gwybod ffeithiau a wnawn, ond adnabod person. Hanfod Cristnogaeth yw calon wedi ymrwymo i berson, nid i lyfr, nac adeilad, na thraddodiad, na ffordd o addoli - ond person. Iesu yw’r gwraidd dan y canghennau.
Beth yw credu?
Gwarchod tref nes dyfod derbyn...
Nid ffrwyth ein llafur ni yw’n tref. Derbyn ein treftadaeth a wnaethom. Ers dwy fil o flynyddoedd, ni pheidiodd yr Eglwys Gristnogol a sefyll dros hedd, gwarineb a gwirionedd. Eraill a lafuriasant a ninnau aethom i mewn i’w llafur hwynt (Ioan 9:38; WM). Ein gwaith yw parhau i weithio.
Beth yw maddau?
Cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn...
Nid profiad esmwyth yw maddau. Drwy’r drain sydd raid mynd. Eto, heb faddau, ceir profiadau mwy diflas fyth wrth ddod wyneb yn wyneb o hyd ac o hyd a’r hen elyn.
Beth yw canu?
Cael o’r creu ei hen athrylith...
Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd ar ddaear...A gwelodd Duw fod hyn yn dda (Genesis 1:1a; 25b) ‘Roedd popeth a greodd Duw yn canu ei glodydd: nef a daear, tir a môr yn moli mewn undod. Ond, wedi cael, colli. Collwyd y gân. Ond wedi colli, cael. Adferwyd y gân gan Iesu Grist. Yn Eden, meddai William Williams, Pantycelyn (1717-1791), fendithion gollais...ond buddugoliaeth Calfarî enillodd fwy yn ôl i mi. Mi ganaf tra bwyf byw...(C.Ff.:522)
Beth yw gweithio ond gwneud cân
O’r coed a’r gwenith?
Cymhelliad cryf y Cristion yn ei waith yw cariad ei Geidwad, a’i gariad at ei Geidwad. Lle bo cariad yn cymell, ni raid wrth gymhelliad mwy. Yn, ac oherwydd y cariad hwn, bydd ein pwyslais wrth weithio, fwy ar fawl na hawl; clod na chloc, a chân yn fwy na chwyn.
Beth yw trefnu teyrnas?
Crefft sydd eto’n cropian.
Lluniodd dyn gyfreithiau a rheolau. Adeiladodd sefydliadau a seneddau; etholodd gynghorau a phleidiau i lywodraethu ar wlad a chymdeithas. Ond ni chafwyd eto gyfraith heb wrthryfelwyr na llywodraeth heb wrthblaid. Dibynna’r cyfan ar awdurdod allanol, ar allu materol i’w cynnal a golud mawr i’w llwyddo. Dull Iesu o deyrnasu yw caru hyd yr eithaf, gwasanaethu hyd yr eithaf, rhannu hyd yr eithaf, aberthu hyd yr eithaf. Arnom mae pwysau’r Deyrnas honno - ni ydyw cenhadon pwrpas Duw, ei weithwyr mewn cymdeithas.
A’i harfogi?
Rhoi’r cyllyll yn llaw baban.
Cred pob gwlad boed fach neu fawr, fod arfogi yn amod ei chadernid a’i pharhad. Mae Crefyddau’r byd hefyd a gwaed ar eu dwylo, a’i rhan mewn terfysgoedd gwaedlyd yn amlwg. Ond mae’n rhaid tystio mai pobl ffydd, yn Iddewon, Mwslimiaid a Christnogion sydd yn dal y ddelfryd o Heddwch gerbron cenhedloedd y byd. Magodd yr eglwys hon apostolion heddwch gwrol iawn. Yr ydym yn falch o’r etifeddiaeth honno ac yn dymuno bod yn driw wrthi...
Beth yw bod yn genedl?
Dawn yn nwfn y galon.
Dawn yw dewis Waldo i gyfleu'r anwyldeb, yr eiddigedd a’r angerdd y mae’r gair cenedl yn eu cyffroi ynom, ac eto y mae’r rheswm am yr effeithiau hyn yn ddirgelwch neu yn ddawn yn nwfn y galon. Rhywbeth i’w ymarfer yw dawn. I feithrin y ddawn o fod yn genedl rhaid ymarfer y cof. Mae anghofio yn golygu difetha’r ddawn. Nid oes angen gelynion i fathru ein cenedl dan draed. Digon yw i bobl fel ni anghofio.
Beth yw gwladgarwch?
Cadw tŷ mewn cwmwl tystion.
Gwarchod y teulu, sicrhau’r fagwraeth orau dan yr amgylchiadau anwylaf yw cadw tŷ. Presenoldeb eraill o’r gorffennol yw’r cwmwl tystion. Hanes teulu yw gwladgarwch yn ôl Waldo - teulu yn perthyn i’w gilydd mewn ffordd ddirgel a dwfn. Diolch am y fagwraeth dda, gofalus a chariadlawn a gawsom - cyfle i ddiolch am y bobl sydd yn cadw tŷ i ni. Diolch hefyd am deulu’r ffydd - ynddo a thrwyddo cewch weld gogoniant Duw drwy lygaid eraill, clywed Gair Duw yng ngeiriau eraill, ymdeimlo a chariad Duw yng nghwlwm cariad eraill, ac ymddiried ynddo drwy bwyso ar ffydd eraill.
Y cwestiwn olaf yw Beth yw’r Byd? Ceir dau ddarlun cyfoethog - cylch yn treiglo a crud yn siglo. Troi a chwyldroi yw athrylith Duw. Nid peth llonydd ydyw. Cylch yn treiglo ydyw. Lledu eich gorwelion mae ffydd nid crebachu eich meddwl.
...crud yn siglo...
Un o ddodrefn y teulu yw crud. Bendithiwyd ni â dau gartref, dwy aelwyd, dau deulu - ein teulu gwaed, a theulu’r eglwys hon - y mae lle yn y teulu i bob aelod ohono, ac i bob aelod o’r teulu ei waith a’i weinidogaeth ei hun. Beth bynnag arall ydym, beth bynnag arall y llwyddwn a methwn i fod, mynnwn gael bod yn deulu: brodyr a chwiorydd.
Waldo oedd piau'r gair olaf; darllenwyd Eirlysiau gan Aled. Noson dda oedd hon, trafodaeth fuddiol, bendith ddofn. Diolch arbennig i'r Parchedig Aled Gwyn am ei gymorth parod.