Grawys 2016: Ffydd a Thrais 5: CONTEST
CONTEST - strategaeth gan Lywodraeth San Steffan fel ymateb i fygythiad brawychiaeth. Ceir iddi bedair ongl: Pursue, Prevent, Protect, Prepare … ymlid pob bygythiad, gweithredu i atal ymuno â mudiadau terfysg, cynnal a datblygu'r hyn sydd yn ein hamddiffyn a pharatoi ar gyfer ymosodiad. Onid oes galw arnom fel cymunedau ffydd i ymlid, atal, amddiffyn a pharatoi?
Ymlid. Erlid y perygl. Mewn ymateb i derfysgaeth a thrais, rhaid i gymunedau ffydd ymlid y sentimental. Pobl deimladwy yw’r Cymry. Ceir gwrandawiad i bob apêl ddidwyll; beth ddigwydd wedi i’r teimlad glaeru? Bu ein cyfnod yn drwm o sôn am ddiogelu’r amgylchfyd, a dileu tlodi, anghyfartaledd, trais, rhyfel a therfysg. Erys y pethau hyn. Cuddiwn ein diffyg pendantrwydd, diffuantrwydd a dal-i-fyndrwydd o dan haenau o siarad, addewidion a bwriadau da. Try teimlad yn ddim amgenach na sentiment. Oni welir hyn yn ein crefydda? Ar ôl oedfa, awn adref yn sŵn emyn a thôn, Gair, a gweddi a phregeth; crefydd wedi ein cynnal. Nid digon hyn i’n cadw! Cymaint mwy pendant ein crefydd o orfod pwyso’n drymach arni. Aeth Cristnogaeth Cymru a’i phen i’w phlu oherwydd bod bywyd mor dawel, esmwyth a hawdd. Cynnal a wna, nid cadw. Rhaid i Gristnogaeth fod naill ai’n dda ac iachusol, neu’n ddrwg a niweidiol. Ni all fod y ddau beth! Os drwg a niweidiol yw, rhaid ei dileu. Os da, rhaid credu ynddi, a dilyn Iesu!
Atal. Rhwystro ein hieuenctid rhag ymuno â mudiadau terfysg. Rhaid i ninnau atal ein hieuenctid rhag cefnu ar gymdeithas a all magu’r dinasyddion sydd eu hangen ar ein gwlad a’n byd. Cyfnod rhyddid yr unigolyn i fynegi ei hun yw hwn. Gosodir pob un o werthoedd cymdeithas ar yr un gwastad; cyfwerth pob gwirionedd heblaw'r gwirionedd fod gan bawb yr hawl i dderbyn ac ymarfer unrhyw wirionedd y dymuna. Gorseddir goddefgarwch hyd nes i ni faglu dros ryw bethau na ddylid eu goddef: trais, fandaliaeth, hiliaeth a chreulondeb. Cefnwyd ar gymdeithas cwbl unigryw, o gyd-addolwyr, a sicrha’r fagwrfa orau i bersonoliaeth rydd, ond cyfrifol. Sut mae atal pobl rhag cefnu ar y gymdeithas hon? Rhaid i ni sy’n ei chynnal, a chael ein cynnal ganddi, ymhyfrydu ynddi. Mor fawr yr angen heddiw inni ddod yn aelodau gwirioneddol ohoni.
Amddiffyn. Cynnal ein hamddiffynfeydd yn erbyn ymosodiadau terfysgaidd. ... ar y ddaear tangnefedd ymhlith pobl (Luc 2: 14). Bloeddia’r penawdau trais a llofruddiaeth, rhyfel a therfysgaeth. Mae ofn arnom; mae ofn yn creu trais. Neither a man nor a crowd nor a nation can be trusted to act humanely or to think sanely under the influence of a great fear. (Bertrand Russell, 1872-1970). Yr unig amddiffyn i ofn yw gobaith Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan; dywedwch wrth y pryderus, "Ymgryfhewch, nac ofnwch ... wele, eich Duw" (Eseia 35: 3-4). Peidiwch ag ofni (Luc 2: 11) yw neges ein ffydd. ... mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn (1 Ioan 4: 18). Rhaid peidio bodloni byw yng nghysgod ofn dieithryn, y gwahanol nac ofn argyhoeddiad. Trwy ei ffordd o ymwneud â phobl, gall y gymuned ffydd ddangos sut orau i gynnal a datblygu ein hamrywiol amddiffynfeydd yn erbyn ofn.
Paratoi. Paratoi am y gwaethaf. Rhaid bod yn abl i ymateb yn effeithiol i ymosodiad. Mewn bywyd daw gofid, diflastod, unigrwydd a thorcalon. Ni ellir osgoi'r rhain ond gellir paratoi i wynebu eu canlyniadau a’u goblygiadau. Yr Iesu a wylodd (Ioan 11: 35). Adnod fer a’n sicrha nad Duw pell, difater sydd gennym. Pan ddifrodir bywyd, nid oes digon o gryfder gan y cryfaf o’n geiriau i ddal pwysau dolur amrwd. Beth sydd felly? Dagrau, coflaid, cyffyrddiad ac ysgydwad llaw. Erys her dioddefaint. Mae angen unigolion a chymunedau ffydd sy’n barod i wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15b) ... y ffoadur, y tlawd, yr amddifad a’r galarus.
CONTEST. Rhaid ymlid y sentimental ac atal y cefnu ar gymdeithas all fagu’r dinasyddion sydd eu hangen. Rhaid cynnal a datblygu ein hamrywiol amddiffynfeydd yn erbyn ofn a rhaid paratoi a bod yn barod i sefyll gyda’n gilydd, a gydag eraill, yn a thrwy ofid bywyd a phoen byw.