Donald Trump. Ymgeisydd Arlywyddol yr Unol Daleithiau. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, mae’n fwriad ganddo ‘to bomb the s**t out of ISIS’. Awgrymodd yn ogystal, mai da fuasai atal Mwslimiaid rhag dod i mewn i’r Unol Daleithiau. Mae Birtherism yn un o’i greadigaethau - sef ymgais i danseilio arlywyddiaeth Barack Obama, gan awgrymu fod yr Arlywydd cyfredol yn fygythiad i’r Unol Daleithiau, a honni mai Mwslim ydyw go iawn.
Cystal cyfaddef, nad Trump yw fy mhennaf ddiddordeb innau heddiw. Gellir deall Donald Trump. Mae pob sylw gwyllt a hallt yn amlygu’r newyn anniwall a berthyn iddo am rym, safle a hawl. Mae hawl bob amser yn hawlio mwy.
Gellir deall Donald Trump, ond sut mae deall ei gefnogwyr? Pwy yw’r bobl sydd yn ymroi i gynnal a chefnogi’r fath gyrch etholiadol budr, hiliol ac estrongasol?
Gellir dilyn yr areithiau yn ddigon hawdd bellach. Gan syllu heibio i Trump ei hun, diddorol yw sylwi ar y bobl sydd yn ei gymeradwyo. ‘Roeddwn wedi tybio mai rhyw gymysgedd rhyfedd o neo-Natsiaid, goruchafiaethwyr a'r Ku Kux Klan (KKK) oeddent. Dyna dybiais; wedi’r cyfan, mae’n rhaid mai ‘pobl fel yna’ oedd cefnogwyr Trump! Allai'r fath rhethreg gas a gwleidydda bas ond apelio at ‘bobl fel yna’, ac o’r herwydd nid oes yn rhaid poeni’n ormodol am Trump. Nid oes digon o ‘bobl fel yna’ i gael i warantu enwebiad y Grand Old Party.
Ond, nid dim ond ‘pobl fel yna’ sydd yn bleidiol i Trump, ond hefyd ‘pobl fel ni’. Dyma pam na ellir anwybyddu Donald Trump. Pwy sydd yn cefnogi Trump? Pobl y maestrefi ydynt; pobl y tir canol diogel; cyfreithwyr, athrawon, myfyrwyr, pobl busnes a gweithwyr siop. Pobl gyffredin ddigon yw cefnogwyr Trump. Nid ‘pobl fel yna’, ond pobl; jest pobl. Pobl ydynt, sy’n gweld ynddo obaith am well yfory. Golyga normalrwydd ei gefnogwyr nad amhosibl yw gweld Donald Trump yn y Swyddfa Hirgron.
Yr Arlwydd Donald Trump - i Fwslimiaid Americanaidd mae hyn o bosibilrwydd yn frawychus, ond hen fraw ydyw. Mae Trump yn llwyddo i gael ei gefnogwyr i daflu’r bai am drafferthion yr Unol Daleithiau ar y gwahanol a’r estron (Yn ei hanfod, yr un rhethreg a ddefnyddir gan Nigel Farage). Yng nghyd-destun yr Unol Daleithiau gwnaethpwyd, dros y blynyddoedd, yr union gam ag Americanwyr o dras Tsieineaidd, Almaenaidd, Japaneaidd a Feitnamaidd. Nid polisi newydd mo hwn. Hen ydyw, a thra effeithiol. Mae’r ffaith fod Trump a’i gynghorwyr yn teimlo y gellir hyd yn oed crybwyll yn gyhoeddus, gwersylloedd cadw, cardiau adnabod a bas data i Fwslimiaid yr Unol Daleithiau yn dangos pa mor effeithiol yw’r polisi hwn, a bod iddo bellach momentwm eithriadol beryglus.
Cefnogwyr Trump? Cyffredin ydynt; Normal. Er tegwch, nid yw bob un ohonynt yn llwyr gefnogol i ddatganiadau a darpar bolisïau wrth-Mwslimaidd ei harweinydd, ond nid ydynt ychwaith yn gyhoeddus yn eu gwrthwynebu. Mae eu tawedogrwydd yn llafar. Mae’r tawedogrwydd hwn yn normaleiddio rhagfarn ac atgasedd. Bellach, hyd yn oed os na fydd Donalt Trump yn sicrhau enwebiad ei blaid, bydd natur ei gyrch etholiadol a’i fynych ddatganiadau byrbwyll wedi gwenwyno gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau am flynyddoedd lawer.
Ond, beth a wnelo hyn â ni? Awgrymir yr ateb gan yr hanesydd Arnold J. Toynbee (1889-1975) pan ddywed: America is like a large friendly dog in a very small room. Every time it wags its tail, it knocks over a chair. Mae’r ci mawr hwn wedi cynhyrfu’n lân, ac mae’r dodrefn a wthir drosodd yn sgil cyrch etholiadol Donald Trump yn effeithio ar bawb ohonom.
Camp Trump a’i beiriant etholiadol yw normaleiddio atgasedd a rhagfarn. Canlyniad normaleiddio tebyg oedd yr holocost, a hil-laddiad Bosnia a Rwanda.
Clywir llawer o sôn am eithafwyr - maen nhw yn rhemp, yn barod i ladd a chael ei lladd. Heb amheuaeth, peryglus ydynt, ond ni ddylid anghofio fod pobl normal sy'n dawel normaleiddio rhagfarn ac atgasedd llawn mor beryglus â’r eithafwyr.
(OLlE)