Terra Nova...
11 y bore, amser paned, ac ‘roedd awydd baned ar nifer dda ohonom heddiw. Bu’n rhaid gwthio dau fwrdd ar ei gilydd, a gwasgu o gwmpas y byrddau. Er mor adfywiol y baned, y drafodaeth a’n bywiocaodd. Man cychwyn y drafodaeth honno oedd llun gan Nicolaes Maes (1634-1693). Dyma Hen Wraig yn Gweddïo.
Hen Wraig yn Gweddïo gna Nicolaes Maes (1634-1693).
Wrth syllu ar y llun, gellid clywed y weddi dawel o ddiolchgarwch am y bwyd sydd ar y bwrdd - deisyf bendith mae hon.
Mae ei gwisg yn syml a phlaen, mae ei chartref yn gyffyrddus, ond heb fod yn foethus. Mae’r bwyd yn syml - uwd, pysgod, caws a bara menyn. Mae’r bwrdd yn fach - bwrdd i un ydyw.
Ni ellir ond dyfalu beth fu hynt a helynt ei bywyd, ond ‘roedd y cwmni’n gytûn fod hon wedi hen arfer, beunydd, beunos â chydnabod gofal Duw amdani.
Awgrymodd y Gweinidog, bod hon yn amlwg gysurus yng nghwmni Duw. Tynnwyd sylw un arall gan y Beibl wrth y ffenest: Beibl agored ydyw. Daeth geiriau Dyfed (Evan Rees; 1850-1923. CFf.:590) i’r cof:
Ysbryd Sanctaidd dyro'r golau
ar dy eiriau di dy hun,
agor inni'r Ysgrythurau,
dangos inni Geidwad dyn.
Wrth y ffenest hefyd, mae llusern, llusern heb fod ynghyn. Pam? Onid yw’r cysgodion yn cau yn dynn amdani. Mynnai un nad o’r llusern y daw’r golau ym mywyd hon, ond gan Dduw. Atgoffwyd ni fel byddai William Williams (1717-91; CFf.:698) yn arswydo rhag teithio yn nhywyllwch y nos, a bod dim rhyfedd iddo ganu felly:
‘Rwyf yn blino ar y t'wyllwch,
deued, deued golau’r dydd;
yn y golau
mae fy enaid wrth ei fodd.
Tynnwyd ein sylw at allweddau’r tŷ. Gan mai llun defosiynol yw hwn, rhaid cofio bod arwyddocâd i bopeth bron - cafodd hon allweddau Teyrnas Nefoedd gan yr hwn sydd ganddo allweddau Marwolaeth a Thrigfan y Meirw (Datguddiad 1:18).
Wrth syllu ar y llun, gallwn glywed y weddi dawel o ddiolchgarwch syml, didwyll a chyson am ofal Duw yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin.
Er mae cymysg oedd yr ymateb i'r llun, ac i'r defnydd o gelfyddyd fel canllaw defosiynol, cafwyd bendith o gwmni’n gilydd, sgwrs a thrafodaeth onest a brwd. Daeth Genesaret - awr fach yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath â bodd a bendith. Cawsom egwyl fach i feddwl, a thrafod ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.