Grawys 2016: Ffydd a Thrais 6: Hebreaid 12: 25-29 a Datguddiad 21: 1-4
Yn y gyfres deledu Civilization bu Kenneth Clarke (1903-1983) yn trafod dirywiad y diwylliant Ewropeaidd, dinistr Rhufain a dechrau’r Oesoedd Tywyll. Meddai: In the last few years, we’ve developed an uneasy feeling this could happen again ... advanced thinkers have begun to ask if our civilization is worth saving. Cofnoda Arnold J. Toynbee (1889-1975) yn ei Study of History ddatblygiad, ffyniant, dirywiad a diflaniad 19 diwylliant. Yn 2016, mae diwylliant y Gorllewin yn crebachu ac, yn ôl y sôn, yn raddol ddarfod. Ychwanegwn at y bygythiad mewnol, fygythiad allanol: mudiadau ffwndamentalaidd sydd am lenwi’r gwacter a grëir pan gwymp diwylliant. A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? (Jeremeia 37: 17). Nid chynnig un gair oddi wrth Dduw ffordd allan nac i osgoi hyn oll; mae gennym air oddi wrth yr Arglwydd a’n harwain trwy hyn i gyd.
Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd". Ond y mae’r geiriau, ‘Unwaith eto’, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i’r pethau na siglir aros (Hebreaid 12: 26-27). Er nad yn eiriau cysurlawn, ymhlyg ynddynt mae cymorth ac arweiniad. Ynddynt, ceir crynhoad o ddylanwad bywyd Iesu. Diben y cyfan oedd creu o’r hen fyd, byd newydd. Sut y crëir daear newydd o hen fyd? Ysgwyd Duw yr hyn oll a ellir ei ysgwyd, er mwyn amlygu’r hyn na ellir ei ysgwyd. O’r rhain, adeiladir o hen fyd, daear newydd. Y pethau na siglir yw deunydd crai y Nef Newydd a’r Ddaear Newydd (Datguddiad 21: 1-4).
yr wyf fi am ysgwyd: Duw sydd yn ysgwyd. ’Rydym yn argyhoeddedig mai Duw ar waith yw ein Duw. Hawdd derbyn y syniad o Dduw ar waith yn cynnal a chadw, ond Duw yn ysgwyd? Oni pan welir pethau’n ysgwyd o’n cwmpas y gwyddom fod Duw ar waith?. Siglwyd Abraham a Sara ... Moses ... ar ôl cyrraedd Canaan, crëwyd o’r Gyfraith, cyfreithiau, adeiladwyd dinas a chodwyd teml ... ac ysgydwwyd y cyfan. Siglwyd y cyfan er mwyn symud y pethau a siglir, ac i’r pethau na siglir aros. Daeth Iesu; ysgydwodd hwn y byd! Hoeliwyd ef i’r Groes ac yn gelain, gosodwyd ef i orwedd mewn bedd. Ysgydwodd Ei hun yn rhydd o’r bedd; diflannodd o fyw i farw, daethom ninnau i fyw i farw ac i fyw o’r newydd.
Mae tri pheth na siglir mohonynt. Natur ddigyfnewid Duw: ... y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun (2 Timotheus 2:13). Mae Duw yn gyson. Duw y cariad nad yw’n oeri, Tad y gras nad yw’r lleihau (George Rees, 1873-1950; C.Ff. 586). Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth (Hebreaid 13:7).
Yr Eglwys: ... ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni (Mathew 16: 18). Weithiau bu hon yn ddewr, ond nid pob amser! Weithiau, bu farw mewn cywilydd, llwch a baw. Bob tro, daeth bywyd newydd iddi oherwydd bod yr Hwn sydd ei phiau yn gwybod Ei ffordd allan o bob bedd. Yn 2016 darogan ystadegau ein diwedd. O gredu yn yr Atgyfodiad na ofynnwn: ‘A fydd yr eglwys yn goroesi er gwaethaf pob tystiolaeth ei bod yn darfod?’ ond, yn hytrach, ‘A ydym yn credu, a’r eglwys wedi darfod, y daw atgyfodiad: ffurf newydd - gwefreiddiol, a chreadigol - Gymreig ohoni?’ Daw llewyrch ar ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth o ofyn yr ail gwestiwn; trwy wneud hyn dangoswn i ni ddeall fod Duw yn symud y pethau a siglir ... er mwyn i’r pethau na siglir aros.
gan fy mod yn fyw, byw byddwch chwithau hefyd (Ioan 14:19): cyfraniad pennaf ein ffydd yw nid gwneud bywyd heddiw yn haws, ond amlygu nad y bywyd hwn yw’r bywyd i gyd. Duw cariad yw (1 Ioan 4:8); tri gair yn warant o’n parhad. Wrth edrych ar y byd a’i phobl, ai posibl dychmygu creu rhywbeth mor anhygoel o gymhleth a phrydferth, dim ond i’w weld yn cael ei ddinistrio? O fethu dychmygu’r fath beth, sut ellir credu y gall Duw greu rhyfeddod yr hyn oll ydym, dim ond i’w weld yn darfod. O’n blaenau, mae Sul y Pasg, pryd y gwelwn gan fy mod yn fyw, byw fyddwch chwithau hefyd - nid y bywyd hwn yw’r cyfan o fywyd. Pan ysgydwir ein ffydd, ein diwylliant a’n crefydda, glynwn wrth y tri pheth hyn: mae Duw yn ddigyfnewid yn ei gariad; er iddi farw, nid marw bydd Eglwys Iesu Grist; a gan fod Iesu’n fyw, byw fyddwn ninnau hefyd.