Pythefnos Masnach Deg: o 29 Chwefror 2016 i 13 Mawrth 2016
'Steddwch am frecwast; sefwch am ffermwyr
Cymerodd Eglwys Minny Street y cam o gofrestru fel Eglwys Masnach Deg mewn Cwrdd Eglwys a gynhaliwyd ar Nos Sul, 5 Rhagfyr 2004. Bu’r eglwys yn weithgar yn yr ymgyrch hon ers nifer o flynyddoedd cyn hynny ond dros y degawd diwethaf sicrhaodd mai dim ond nwyddau Masnach Deg/Fairtrade a ddefnyddir ym mhob agwedd o waith yr eglwys, bu’n cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd Masnach Deg, a bu’n hyrwyddo ystod eang o nwyddau sydd bellach yn cario label Masnach Deg.
Ychydig o'r nwyddau Masnach Deg
... a rhagor!
Mewn arolwg diweddar canfuwyd bod 78% o boblogaeth gwledydd Prydain yn adnabod logo Masnach Deg/Fairtrade. Yn wir, cyfrifir y logo, y label moesol mwyaf cyfarwydd yn ein plith. Yn anffodus, cyfaddefodd dros 50% o’r rhain nad oedd ganddynt y syniad lleiaf beth oedd arwyddocâd y logo, na chwaith pam y dylent fod yn prynu nwyddau yn arddel y label. Yn fwy siomedig oedd bod nifer o’r atebwyr hyn yn Gristnogion. Mae’n amlwg bod gennym fel Cristnogion ffordd bell i fynd i ddarbwyllo nid yn unig ein cyd-ddinasyddion ond hefyd ein cyd-Gristnogion o’n dyletswyddau tuag at ein cyd-ddyn.
Er bod sawl un o’r archfarchnadoedd bellach yn gwerthu nwyddau Masnach Deg, megis te, coffi siocled a bananas, teg dweud bod llawer o’r cynhyrchwyr teuluol a gwledig yn dibynnu ar siopau bychain ar y Stryd Fawr i werthu eu nwyddau trwy fudiad Fairtrade. Un o’r siopau hynny yw Fair Dos/Siopa Teg, ar Heol Llandaf, Treganna. Mae gan y siop hon gysylltiad agos ag Eglwys Minny Street; mae’n cefnogi cynhyrchwyr bychain trwy werthu nwyddau Fairtrade a hefyd archebu nwyddau megis crefftau a chardiau cyfarch Cymraeg yn uniongyrchol o gynhyrchwyr yn Affrica.
Cawsom glywed am ‘Cardiau o Affrica’ o Rwanda, a ‘Crefftau Denur’ o Kenya yn ein Hoedfa Foreol Gynnar. Mawr ein diolch am gwmni ac arweiniad Aled Pickard. Bu Aled yn sôn am ei waith yn ceisio mesur effaith prynu dim ond un eitem Masnach Deg. Syfrdanwyd y gynulleidfa o sylweddoli mor real a phell gyrhaeddol y cymorth a ddaw yn sgil penderfynu prynu darn o waith crefft neu gerdyn cyfarch Masnach Deg. Meddai Leah Mitula, sylfaenydd ‘Crefftau Denur’: Efallai nad ydych yn ystyried y gwahaniaeth ‘rydych chi’n ei wneud. Mae eich siopa wedi gwneud gwahaniaeth mawr i blant yn Kenya a gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.
Beth felly yw nod Masnach Deg? Yn syml, ceisio cynnig rhwyd ddiogelwch i gynhyrchwyr trwy warantu, yn gyntaf, isafswm pris y cytunwyd arno’n rhyngwladol. Os yw’r pris ledled y byd yn codi, yna codi hefyd y mae’r pris Masnach Deg, ond mae’r pris Masnach Deg yn aros yn sefydlog os yw pris y farchnad yn gostwng Yn ail, premiwm cymdeithasol i fuddsoddi mewn datblygu cymunedol megis ffynhonnau neu glinigau. Mae’n rhaid i gynhyrchwyr fod yn rhan o gorff democrataidd megis menter gydweithredol, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch hyn mewn modd teg. Yn drydydd, amodau gwaith diogel a theg, ac yn olaf, dulliau cynhyrchu sy’n gyfrifol a chynaliadwy o safbwynt amgylcheddol. Sut fedrwn ni beidio cefnogi’r fath ymgyrch?
Y brecwast
Bwrlwm y brecwast Masnach Deg
Rhwng y ddwy oedfa foreol, cynhaliwyd Brecwast Masnach Deg: gwledd o frecwast a chyfle euraid i flasu a phrofi’r newydd - jam hibisgws a the Chai! Mae ystod cynnyrch Masnach Deg yn syfrdanol. Wedi’r brecwast a’i sgwrs, prysurdeb y stondin Masnach Deg (y dewis yn helaethach o dipyn heddiw wrth gwrs); cyfrannu i Fanc Bwyd Caerdydd, daeth 10:30, a’i gyfle newydd i addoli, gan ddechrau yn sŵn Salm 85:8-11 a’r weddi syml, dreiddgar: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf.
Thema pregethau’r Grawys eleni yw ‘Ffydd a Thrais’, ac yn yr Oedfa Foreol cydiwyd yn CONTEST - strategaeth gan Lywodraeth San Steffan fel ymateb i fygythiad brawychiaeth. Ceir iddi bedair ongl: Pursue, Prevent, Protect, Prepare … ymlid pob bygythiad, gweithredu i atal ymuno â mudiadau terfysg, cynnal a datblygu'r hyn sydd yn ein hamddiffyn a pharatoi ar gyfer ymosodiad. Hanfod y bregeth hon oedd yr alwad sydd arnom fel cymunedau ffydd i ymlid, atal, amddiffyn a pharatoi.
Bu ein cyfnod yn drwm o sôn am ddiogelu’r amgylchfyd, a dileu tlodi, anghyfartaledd, trais, rhyfel a therfysg. Erys y pethau hyn. Cuddiwn ein diffyg pendantrwydd, diffuantrwydd a dal-i-fyndrwydd o dan haenau o siarad, addewidion a bwriadau da. Try teimlad yn ddim amgenach na sentiment! Rhaid ymlid y sentimental.
Pa gymdeithas all magu’r dinasyddion sydd eu hangen ar ein gwlad a’n byd? Cymdeithas o gyd-addolwyr. Y gymdeithas hon a sicrha’r fagwrfa orau i bersonoliaeth rydd, ond cyfrifol. Rhaid atal pobl rhag cefnu arni.
Bloeddia’r penawdau trais a llofruddiaeth, rhyfel a therfysgaeth. Mae ofn arnom; mae ofn yn creu trais. Yr unig amddiffyn i ofn yw gobaith. Peidiwch ag ofni (Luc 2: 11) yw neges ein ffydd. ... mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn (1 Ioan 4: 18).
Mewn bywyd daw gofid, diflastod, unigrwydd a thorcalon. Ni ellir osgoi'r rhain ond gellir paratoi i wynebu eu canlyniadau a’u goblygiadau. Mae angen unigolion a chymunedau ffydd sy’n barod i wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15b) ... y ffoadur, y tlawd, yr amddifad a’r galarus.
Yn yr Oedfa Hwyrol, daeth y gyfres Grawys i ben gydag ystyriaeth o’r adnodau rhain o’r Llythyr at yr Hebreaid: Unwaith eto yr wyf fi am ysgwyd nid yn unig y ddaear ond y nefoedd hefyd". Ond y mae’r geiriau, ‘Unwaith eto’, yn dynodi bod y pethau a siglir, fel pethau wedi eu creu, i gael eu symud, er mwyn i’r pethau na siglir aros (Hebreaid 12: 26-27). Cyfaddefodd ein Gweinidog nad geiriau cysurlawn mohonynt, ond mynnai fod cymorth ac arweiniad ymhlyg ynddynt.
Duw sydd yn ysgwyd. Nid oes unrhyw ymgais i sentimentaleiddio Duw yn y Llythyr at yr Hebreaid. Nid Duw meddal mohono: Duw sydd yn ysgwyd pobl a byd yw hwn! Ysgwyd y cyfan oll, i bwrpas - symud y pethau a siglir, er mwyn i’r pethau na siglir aros. Allweddol bwysig yw’r pethau na siglir; wrth y rheini y dylem lynu. Rhain yw sylfaen y deyrnas ddi-sigl.
Awgrymodd ein Gweinidog tri pheth na siglir mohonynt. Natur ddigyfnewid Duw. Mae Duw yn gyson. Duw y cariad nad yw’n oeri, Tad y gras nad yw’r lleihau (George Rees, 1873-1950; C.Ff. 586). Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth (Hebreaid 13:7).
Yr Eglwys: ... ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni (Mathew 16: 18). Weithiau bu hon yn ddewr, ond nid pob amser! Weithiau, bu farw mewn cywilydd, llwch a baw. Bob tro, daeth bywyd newydd iddi oherwydd bod yr Hwn sydd ei phiau yn gwybod Ei ffordd allan o bob bedd.
Duw cariad yw (1 Ioan 4:8); tri gair yn warant o’n parhad. Wrth edrych ar y byd a’i phobl, ai posibl dychmygu creu rhywbeth mor anhygoel o gymhleth a phrydferth, dim ond i’w weld yn cael ei ddinistrio? O fethu dychmygu’r fath beth, sut ellir credu y gall Duw greu rhyfeddod yr hyn oll ydym, dim ond i’w weld yn darfod. O’n blaenau, mae Sul y Pasg, pryd y gwelwn gan fy mod yn fyw, byw byddwch chwithau hefyd (Ioan 14:19) - nid y bywyd hwn yw’r cyfan o fywyd.
Pan ysgydwir ein ffydd, ein diwylliant a’n crefydda, glynwn wrth y tri pheth hyn: mae Duw yn ddigyfnewid yn ei gariad; er iddi farw, nid marw bydd Eglwys Iesu Grist; a gan fod Iesu’n fyw, byw fyddwn ninnau hefyd.
Da a buddiol fu’r gyfres hon. Diolch amdani.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am amrywiol fendithion y dydd.
Edrychwn ymlaen at gael croesawu’r Parchedig Ddr. Noel Davies yn ôl i’n plith bore Sul nesaf. Â hwythau’n cynnal ei gŵyl bregethu flynyddol, ein braint fel eglwys nos Sul, fydd cael ymuno â’n brodyr a chwiorydd yn y Tabernacl, Caerdydd i wrando neges y Parchedig Ddr. Densil Morgan. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.