Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Llun: Itay Bav-Lev
'Tiberias' ...
Ie, bychan y cwmni ond mawr y fendith â’r tri ohonom yn dechrau’r dydd mewn gweddi, myfyrdod a defosiwn.
Ers dechrau ym mis Medi 2015, buom o fis i fis yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Ym mis Ionawr (4/1) gweddi Jona (Jona 2), a gweddi Jeremeia (17:14-18) fu gwrthrych ein myfyrdod ym mis Chwefror (1/2). Heddiw, proffwydi Baal a phroffwyd yr ARGLWYDD yn gweddïo (1 Brenhinoedd 18:21-40).
Rhaid craffu ar y cyferbyniad rhwng gweddïau proffwydi Baal ar fynydd Carmel a gweddi Elias. Gweddïodd proffwydi Baal arno o’r bore hyd hanner dydd: Baal, ateb ni. Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor. Yna bu’n rhaid iddynt ddawnsio’n wyllt, ac anafu eu hunain â chyllyll a phicellau nes i’r gwaed lifo arnynt. Ond nid thyciau hynny ddim. Felly parhasant i broffwydo’n orffwyll hyd yr hwyr ond nid oedd llef nac ateb na sylw i’w gael.
O’i chyferbynnu â’r gweddïau i Baal, ‘roedd gweddi Elias i’r ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, yn un ddisgybledig a ffyddiog, ond yn daer ar yr un pryd: ... pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau’n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O! ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i’r bobl hyn wybod mai tydi sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.
Ar brydiau tueddwn ninnau i ymddwyn fel proffwydi Baal gan geisio creu argraff ar Dduw a’i bobl trwy ryw ffordd neu arddull, neu dechneg o weddi. Dylem yn hytrach bwyso ar addewid Duw i wireddu’i Air. Yn ein pryder am lwyddiant ceisiwn greu tân o’r nef i argyhoeddi pobl a’u hennill. Nid felly y daw. Fe ddaw pa ymrown yn gyfan i’n Harglwydd ac ymddiried yn ei allu. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw, Sanct Israel ... mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid ... (Eseia 30:15 WM).
 ninnau'r bore hwn, wedi myfyrio uwchben gweddïau proffwydi Baal a gweddi Elias, edrychwn ymlaen at gyfle i drafod gweddi Iesu yng ngardd Gethsemane (Luc 2:22-38) yn ‘Capernaum’ nos Lun 21/3.