NEWYDDION Y SUL

Ein braint heddiw oedd cael croesawu eto i’n plith, cyfaill annwyl a pharod ei gymwynas i’r eglwys hon: y Parchedig Ddr R. Alun Evans (Llywydd Undeb Annibynwyr Cymru).

Ffred oedd yn gyfrifol am ddefosiwn yr ifanc, a’r defosiwn hwnnw’n llawn haeddu ei gyhoeddi yn ei grynswth. Mawr ein diolch iddo am her a chysur:

Faint ohonoch chi sydd wedi gweld lluniau ar y newyddion o’r ffoaduriaid sydd wedi gadael Syria a gwledydd eraill fel Afghanistan, lle mae rhyfeloedd ofnadwy, i chwilio am well lle i fyw? Mae’n rhaid bod pawb yma wedi gweld y lluniau yna.

Mae cannoedd o filoedd wedi gadael eu gwledydd ac wedi wynebu peryglon difrifol. Mae cannoedd wedi boddi wrth groesi’r môr o Dwrci i ynysoedd Groeg. Cafodd y llun o’r tad yn cario ei fab bach tair blwydd oed allan o’r môr ac yntau wedi boddi effaith fawr ar bobl.

Pam mae’r bobl yma yn wynebu cymaint o anawsterau a gadael eu cartrefi a’u gwlad yn arbennig nawr pan mae’r tywydd yn oer? Mae’n rhaid bod bywyd yn amhosibl iddynt ar ôl colli eu cartrefi oherwydd y bomio a nhw heb fwyd na lle i fyw.

Yng Nghalais mae miloedd ar filoedd yn byw mewn môr o fwd heb babell hyd yn oed, a heb fwyd, a heb deulu. Mae cannoedd o blant, llawer yn ifancach na fi, heb eu rhieni yn gorfod gofalu am eu hunain a gobeithio cael dod yma i Brydain neu i wlad arall ddiogel i fyw. Mae’n anodd imi ddychmygu sut baswn i’n teimlo yn y fath sefyllfa heb fam a dad i ofalu amdana’i.

Mae ‘na bobl yng Nghaerdydd heb ddigon o fwyd i’w teuluoedd a gallwn eu helpu wrth roi bwyd i’r banc bwyd ond hoffwn pe baem yn gallu helpu’r bobl yng Nghalais a llefydd tebyg hefyd.

Gweddïwn

Ein Tad a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, rydym yn diolch i Ti y bore ‘ma am yr holl fendithion sydd gennym. Diolchwn am gartrefi cynnes, cysurus, am rieni a theuluoedd sy’n ein caru. Diolchwn am ffrindiau da ac am ein heglwys yma yn Minny Street. Diolchwn am ein hysgolion a’r athrawon sydd yn ein dysgu bob dydd, a’r doctoriaid a’r ysbytai sy’n gofalu amdanom os ydym yn dost. ‘Da ni byth yn brin o fwyd a chofiwn nawr am y miliynau drwy’r byd sydd heb ein bendithion ni heddiw. Rydym yn eu cofio nhw yn ein gweddi nawr ac yn gofyn am bob cymorth iddynt. Amen.

Man cychwyn neges Alun i’r plant oedd cyfaddefiad. Cyfaddefodd mai ei briod, Rhiannon oedd garddwr eu teulu hwy. Ond, ymddiriedwyd i'w ofal ganddi, un goeden fach. Yn wir, bu Alun yn ofalus iawn ohoni - dŵr, golau a maeth. Gosodwyd y goeden ar y bwrdd, a’r goeden yn ddigon o ryfeddod - dail ir, ac yn drwch o ffrwyth melyn. Ie, coeden lemwn oedd hon. Rhaid oedd canmol dawn Alun. Ffion oedd y cyntaf i amau. Tynnodd Alun lemwn o’r goeden a’i gynnig iddi, a bu’n syllu’n hir ar y ffrwyth yn ei llaw gan dawel bendroni sut oedd dweud yr hyn ‘roedd yn rhaid dweud am y 'ffrwyth' hwn. Tynnwyd lemwn arall, a’i daflu (wel wir!) o’r Sedd Fawr i Cian, a oedd yn eistedd gyda’i dad-cu wrth yr organ. Wedi ei ddal, cyhoeddodd yntau’r gwirionedd: ffrwythau plastig oedd y rhain! Plastig! Bu’n rhaid wrth gyfaddefiad arall gan ein cennad felly! Coeden artiffisial oedd hon, a’i ffrwyth yn ddim ond addurn. Wrth ochr y goeden ffug, ‘roedd basged, ac yn y fasged yn gymysg lemonau esgus a dau lemwn iawn. Wedi twrio a chwilio, Leisa a Dafydd lwyddodd i ddarganfod y ddau iawn. Mynnai Dafydd fod y lemwn go iawn yn drwm a squishy, tra bod Leisa wedi teimlo’r ffrwyth iawn i fod yn oerach na’r ffrwyth ffug.

Mor bwysig i bawb ohonom, o’r ieuangaf i’r hynaf ohonom yw medru gweld y gwahaniaeth rhwng yr artiffisial a’r real. Down i’r oedfa, at Dduw, i chwilio am y peth iawn, llesol, iachusol, yn hytrach na chael ein twyllo gan ffug a ffansi.

Bu’r plant yn parhau gyda thema’r mis ‘5’ a hefyd ein pwyslais newydd ers dechrau Ionawr: Blwyddyn y Beibl Byw. Buont yn dysgu am bwysigrwydd Pum Llyfr cyntaf yr Hen Destament, a sut mae’r Efengylau a Llyfr yr Actau yn adlewyrchiad o rheini. Da buddiol hefyd, nawr fel pob amser oedd atgoffa’r ifanc o ymroddiad Mary Jones, a’i hymdrech i gael Beibl: cerdded yr holl ffordd yn droednoeth o’i chartref yn Llanfihangel-y-pennant i’r Bala.

Testun ein sylw yn yr Oedfa Foreol oedd yr adnod hon o lythyr cyntaf Ioan: ... mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn (4:18).

Mae ofn yn ymateb greddfol i berygl - ysgogiad ydyw i fod yn effro, yn wyliadwrus, ar flaenau’n traed. Fe all ofn hefyd lliwio a llywio ein hymateb i fywyd: try ein hofn yn wewyr, yn arswyd, yn amheuaeth ddofn o’r estron, yr anghyfarwydd a’r newydd; fe ddatblyga’n ymdrech i reoli bywyd er mwyn osgoi ei beryglon posib.

Awgrymodd Alun, mae’r unig wir ymateb i ofn yw ymddiried yn Nuw. Dylid, yn hytrach na cheisio rheoli pob peth ein hunain, dysgu ymddiried ein hunain a phob peth i Dduw. Mae’r rhai sy’n trystio’r Arglwydd fel Mynydd Seion - does dim posib ei symud, mae yna bob amser (Salm 125: 1-2 Beibl.net).

Dyma union bwyslais Penrith Thomas (1854-1952):

Ymddiried wnaf yn Nuw

er dued ydyw’r nos ...

Ymddiried wnaf yn Nuw

er trymed ydyw’r groes ...

Ymddiried wnaf yn Nuw

ar lwybrau blin a serth;

yn anawsterau’r ffordd daw

i mi fwy o nerth ...

(CFf.:77)

Gwelir yr un pwyslais eto gan William Williams, Pantycelyn (1717-91):

Ymddiriedaf yn dy allu,

mawr yw’r gwaith a wnest erioed:

ti gest angau, ti gest uffern,

ti gest Satan dan dy droed ...

(CFf.:702)

Rhaid ymddiried yng ngallu oesol greadigol, bythol waredol Duw. Gwaelod a gwraidd y gallu hwn yw Cariad Duw. Daeth y cariad hwn atom yng Nghrist Iesu. Cariad nad ydym yn haeddu; gwyddom mai cosb a melltith yw ein gwir haeddiant, ond yn hytrach, cawn gariad: cariad yn ein cynnal a’n cadw - perffaith gariad ydyw - y perffaith gariad hwn a gyr pob ofn a’r ffo.

Liw nos, fe’n harweiniwyd gan Alun i lyfr nad sydd mor adnabyddus i amryw o ddarllenwyr y Beibl ag y dylai fod. Dieithrwch dull a diwyg yr ysgrifennu sydd yn gyfrifol am hyn. Cysylltir y Llyfr â’r elfennau astrus a rhyfedd mewn crefydd - Datguddiad Ioan.

Ysgrifennwyd Datguddiad Ioan mewn cyfnod anodd i Gristnogion. Cyfnod o erlid sylweddol, a hwythau’n disgwyl yn eiddgar am ailddyfodiad Crist yr Arglwydd. Gyda’r ailymddangosiad yn hir yn dod, bu’r amheuon yn lledu, a’r gofid yn dyfnhau. Mae Ioan yn annog y bobl i sefyll yn gadarn, mewn ffydd, er mwyn y ffydd. Cyfnod o argyfwng ydoedd, ac mae’r argyfwng yn amlwg yn natur y llyfr hwn. Wrth ei ddarllen a’i drafod, cawn ein taflu i fyd newydd a gwahanol. Mae gwahaniaeth mawr rhwng llenyddiaeth ddyrys apocalyptaidd a llenyddiaeth broffwydol. Mae’r proffwyd yn meddwl yn nhermau’r byd presennol - cyfiawnder gwleidyddol, safonau moesol, tegwch cymdeithasol, cryfder economaidd. I’r apocalypt, mae’r byd hwn y tu hwnt i bob gobaith ac achubiaeth. O’r herwydd, fe’i dinistrir. Mae’r apocalypt yn meddwl yn hytrach am yr oes a ddaw, a hynny gyda sicrwydd o ddyfodiad yr oes newydd honno a’i thrwch o fendithion.

Ein man cychwyn oedd Diwrnod Cofio’r Holocost. Trwy gyfrwng cyfrif Twitter Undeb Annibynwyr Cymru, daeth y neges hon o Dŷ John Penri y diwrnod hwnnw (27/1): Ni all geiriau fynegi tristwch Diwrnod Cofio'r Holocost, ond gallwn oll weithio i geisio sicrhau na chaiff y fath beth byth ddigwydd eto. Echel y Cofio eleni oedd yr apêl Don’t Stand By.

Yn sŵn yr apêl honno, daethom at adnod y testun: Bydd wyliadwrus (WM)... bydd effro (BCN) ... deffra  (Beibl.net) (Datguddiad 3:2). Dyma rybudd i eglwys hunanfodlon, gysurus: Sardis. Dinas enwog unwaith, ond eilradd erbyn amser ysgrifennu Datguddiad Ioan. Y mae’r Ysbryd yn ei cheryddu’n llym - nid am heresi nac anfoesoldeb ond am farweiddia, diffyg egni, diffyg awydd i orffen gwaith ar ôl ei ddechrau. Eglwys swrth, gysglyd a hunanfodlon. Mynnai ein cennad fod angen wake-up call ar eglwys o’r fath.

A ydym ninnau yn eglwys Minny Street yn hunanfodlon, cysglyd a swrth? A oes angen wake-up call arnom? Na ato Duw i neb o bobl Dduw sefyll o’r neilltu (Don’t Stand By cofiwch, oedd arwyddair Diwrnod Cofio’r Holocost). Fe roddodd Alun y teitl ‘Stand by!' i lyfr ar ddarlledu gan esbonio mai hanfod y gorchymyn hwnnw oedd bod pethau cynhyrfus, pwysig ar fin digwydd. Boed felly yn hanes yr eglwys hon ac eglwysi tebyg iddi: byddwn effro! Deffrown! Daliwn ar bob cyfle a manteisio ar bob cyfrwng i wasanaethu Duw a’i fyd. Stand by Eglwys Iesu Grist!

Diolch am fendithion y Sul.