... cydweithiwn, cydgerddwn, cyd-folwn gan fyw
i roi iti'r cyfan, ein Harglwydd a'n Duw.
(John Gwilym Jones)
Llawenydd o'r mwyaf oedd cael ymuno â'n brodyr a chwiorydd yn Eglwys y Crwys heddiw i sefydlu ei gweinidog newydd: y Parchedig Aled Huw Thomas. Dymunwn yn dda iddynt yn fugail a phraidd. Gweddïwn y bydd bendith Duw yn helaeth ar y weinidogaeth newydd hon, y bydd yr Ysbryd Glân yn amlwg ei ddylanwad, ac y daw llwyddiant i waith y deyrnas yn eu plith. Dyhead pawb ohonom - deulu'r ffydd - yw gweld eglwysi Iesu Grist yn ffynnu a'i enw Ef yn cael ei ddyrchafu.