Yr adnod o broffwydoliaeth Jeremeia nad sydd yn perthyn i’r gweddill
• Jeremeia 1:11 - Yr wyf yn gweld gwialen almon.
• Barnwyr 15:4 - Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod…
• 2 Brenhinoedd 2:24b - Yna daeth dwy arth allan o’r goedwig…
• Deuteronomium 12:15b - …drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai’n gig iwrch neu garw…
• Lefiticus 11:6 - Y mae’r ysgyfarnog yn cnoi cil…
• Eseia 2:20 - eu taflu i’r tyrchod daear a’r ystlumod…
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, ‘Jeremeia, beth a weli di?’ Dywedais innau, ‘Yr wyf yn gweld gwialen almon.’ Atebodd yr ARGLWYDD, ‘Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf yn gwylio fy ngair i’w gyflawni.’ (Jeremeia 1:11,12)
Gwialen almon: shaked yn yr Hebraeg, a dim ond newid un llafariad oedd eisiau i’w droi’n shoked, gair yn dynodi ‘gwylio’. Ni cheir gwir grefydd byth heb ymglywed ac ymdeimlo â’r Duw sydd ym mhob sefyllfa’n gwylio - yn cadw golwg arnom - ac yn galw arnom i wynebu byw a bod a’n llygaid ar agor.
O! Dduw, dod imi fod yn effro gyda Thi i’m cyflwr fy hun ac i bob cyfle i’th wasanaethu mewn bywyd. Amen.
(OLlE)