Clywais sôn am gyfarfod a fu rywbryd, rhywle, a llawer siarad ynddo am argyfwng crefydd, a chododd un cyfaill brwd ar ei draed - a diolch amdano - a dywedodd: Mr. Chairman, I move that we move the world! Dyna’r ysbryd ardderchog a ddylai nodweddu ein cenhadaeth fel eglwysi. Ein tasg gyntaf yw gwneud ein haelodaeth eglwysig yn rhywbeth mwy na’n henw ar Lyfr yr Eglwys, yn rhywbeth mwy na dangos ein hwyneb mewn ambell i gyfarfod. Gadewch inni wneud o’n haelodaeth eglwysig rywbeth dewr ac anturiaethus. ‘Pob Aelod o Ddifri!’ a fyddo’n harwyddair. I move, my friends that we move the world!
Bydded ein byw, Arglwydd yn ‘Ie’ i rym cariad, gwefr ffydd, a chadernid gobaith. Amen.
(OLlE)