Dydd Gŵyl Simon y Selot
Adnabyddir person yn gyffredin, naill ai wrth enw’i dad a’i deulu, ei grefft, neu’r lle y maged ef. Am Simon, yr unig ffordd sydd gennym i’w adnabod yw enw’r blaid y perthynai iddi. Yn ei oes, gellid sôn yn lled ddiogel am ddwy blaid neilltuol. Disgwyl am y Meseia oedd gwaith y ddwy. Yng nghynteddau'r Deml yr edrychai un blaid amdano. Clywsant ei gerddediad wrth ddarllen y proffwydoliaethau. I’r blaid hon y perthynai Simeon dduwiol ac Anna’r broffwydes. ...disgwyl am ddiddanwch Israel...(Luc 2:25) yr oeddent.
Gofyn pa bryd y deuai’r Gwaredwr a wna’r blaid arall hefyd. Anfynych, os o gwbl, yr edrychent amdano yng nghynteddau'r Deml. Un a roddai i Israel sofraniaeth oedd eu Gwaredwr hwy. Gelwid y blaid hon yn Selotiaid. Pobl oeddent a’u gwladgarwch yn llosgi’n fflam, ac yn casáu'r Ymerodraeth o waelod eu calon. Erbyn hyn ‘roedd yr Iddew wedi colli gwlad. Siom enfawr i unrhyw genedl yw colli ei gwlad, ond mwy o siom i’r Iddew na neb efallai. Onid ei Dduw a roddodd ei wlad iddo? Onid Gwlad yr Addewid y gelwid hi? Bellach yr Ymerodraeth piau hi; milwyr Rhufain a welid yn y wlad; delw Cesar oedd ar yr arian, ac i Cesar y telid y dreth a’r deyrnged. ‘Roedd hyn yn ormod i’r Iddew ddygymod ag ef.
Tua ugain mlynedd cyn i Iesu ddechrau ar ei weinidogaeth gyhoeddus, cododd gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth. Arweinydd y gwrthryfel oedd Jwdas y Galilead, neu Jwdas Gamala (marw. 6; Actau 5:37). Os na chymerodd Simon ran yn yr wrthryfel, mae’r enw Selotes yn awgrymu y perthynai i’r blaid honno a fu'n gefn a chynhaliaeth i Jwdas y Galilead. Rhyfedd iawn yw gweld Iesu’n dewis dyn fel hwn yn un o’i ddisgyblion! Gwladgarwr pubur ydoedd, un a deimlai ei fod yn gwneuthur cam â’i natur wrth dalu treth i Rufain. Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar...oedd gorchymyn Iesu (Luc 20:25). Adennill sofraniaeth, gyrru’r Ymerodraeth ar ffo oedd dymuniad Simon; amlygu teyrnas nad yw hi o’r byd hwn oedd dyhead Iesu: 'Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.' (Ioan 18:36). 'Roedd y cyfryngau’n wahanol felly: y cledd a’r fidog oedd cyfryngau Simon; arfau Iesu oedd gwirionedd a chariad.
Sut y bu hi i Simon adael Jwdas, a dilyn Iesu? Gwyddom ni ddim. Ond wrth ddewis Simon gwelir cyn lleied a feddyliai Iesu am glod y cyhoedd. Yn ôl arfer pobl o feddwl, nid doeth mo dewis un a fu gynt yn un o’r Selotiaid, a dweud y lleiaf! Oni fyddai tuedd i wneuthur awdurdodau gwleidyddol yn ddrwgdybus o Iesu a’i gwmni oherwydd fod Simon yn eu plith? Er hynny mentrodd Iesu, a’i alw i gylch dethol y deuddeg. 'Roedd swyn i Iesu, mewn person oedd ar dân, dim gwahaniaeth beth fyddai achos ei fod ar dân. Prin bod dim yn brydferthach na brwdfrydedd wedi ei sancteiddio! Wele’r addfwyn a’r tyner, yr eiddgar a’r brwdfrydig yn cyfarfod ac asio pan gododd Simon i ddilyn Iesu.
Mewn cylch cyn lleied, lle gwelwyd cymaint o wahaniaeth ag yng nghylch y deuddeg disgybl? Pwy ond Iesu a meddyliau byth am wneud Simon Selotes a Mathew’r Publican yn aelodau o’r un gymdeithas? Dyna ddau eithaf mawr yr oes honno. Y treth-gasglwr a’r dyn hwnnw sydd yn barod i golli’i fywyd er peidio talu trethu. Er mai cylch bychan oedd eiddo’r disgyblion, ‘roedd yn ddigon eang i gynnwys y fath eithafion â Simon a Mathew. Gwahaniaeth o eiddo pobl yw Selot a Publican. Yn nheyrnas Iesu - y Deyrnas y perthynwn iddi, a gweithiwn drosti - Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw (Galatiaid 3:28a) - dim ond pobl Dduw, plethwaith tynn o gyfeillion: Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad (Ioan 15:15) .