Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef...(1 Pedr 2:9)
...cenhadon yn cynrychioli Crist ydym ni...(2 Corinthiaid 5:20a)
Gwaith Duw ydym.
Gwaith Duw yr ydym yn ei gyflawni.
Cariad Duw yw ein cymhelliad.
Ewyllys Duw yw ein safon.
Gogoniant Duw yw ein nod.
"byw (yw) cynnydd mewn gwybodaeth ac mewn gras."
(Gwili. 1872-1936; CFf.: 694)
"Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth,
Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi..." Amen.
(Gwili; CFf.: 694)
(OLlE)