Y Parchedig Gwilym Wyn Roberts (Caerdydd) oedd yn arwain ein Hoedfa Foreol heddiw. Cynhaliwyd y defosiwn gan Ifan a Tomi. Un o’r PIMSwyr newydd yw Ifan, a chafwyd ganddo ddarlleniad deallus o ddameg y Ddafad Goll a’r Darn Arian Coll (Luc 15:1-10). Ar Sul y Beibl, addas oedd y weddi syml a threiddgar hon gan Tomi. Mae’r cymal olaf yn allweddol:
Diolch i Ti, O! Dduw, am y Beibl, dy Air Di i ni.
Diolch am bopeth sydd ynddo.
Diolch fod y Beibl yn dweud hanes Iesu, ac yn egluro pam y daeth Ef, i farw trosom ni.
Diolch hefyd ei fod yn dangos, sut wyt Ti am i ni fyw.
Helpa ni i gymryd dy Air o ddifrif.
Yn enw Iesu Grist. Amen.
Wedi derbyn adnodau’r gan y plantos a’r plant, gofynnodd Gwilym a oedd y plant wedi gwneud camgymeriad erioed. Cydnabuwyd sawl camgymeriad! ‘Dim ots’, meddai Gwilym, a chan sôn am ddilëydd sydd ar dop y pensil, Tippex a’r botwm ‘Delete’ ar gyfrifiadur pwysleisiwyd ganddo nad y camgymeriad a wnaethpwyd sydd bwysig, ond yr hyn a ddysgwyd o’r camgymeriad hwnnw. Mae Duw yn gwybod am gamgymeriadau pawb ohonom, o’r ieuangaf i’r hynaf, ond yn Iesu, â ninnau’n barod i gydnabod y camgymeriad a’i ganlyniadau, mae maddeuant a chyfle newydd.
Aeth y plant a'r plantos at eu gwersi. Arch Noa, yr Enfys ac addewid Duw i'n cadw'n ddiogel fu'r neges yn yr Ysgol Sul heddiw.
Y Parchedig W. Rhys Nicholas (1914-1996) oedd piau emynau’r Oedfa bob un. Daeth budd a bendith o gydnabod eto dawn gynnes-gyfoethog y gweinidog, emynydd a golygydd o Degryn, Llanfyrnach.
Ei allu er diwylliant, - a’i addysg
yn waddol o foliant;
Rhoes ei sêl i Air y sant,
A’r Gân i Dduw’r gogoniant.
(William Rhys Nicholas gan y Parchedig D. Gerald Jones, mab yn y ffydd i W. Rhys Nicholas)
 hithau’n Sul Adferiad, dymunwn fendith Duw ar waith a gweinidogaeth yr Ystafell Fyw. Am weddill yr Oedfa bu Gwilym yn pwyso ar elfennau o’r Gwasanaeth a baratowyd yn benodol i’r Sul arbennig hwn. Haeddai'r weddi cael ei dyfynnu'n llawn:
O! Arglwydd, pwy sydd yna fel Tydi?
Ti sy’n darparu hyd yn oed ar gyfer y rhai sy’n dy wrthod;
Ti sy’n ymestyn allan mewn cariad at y rhai sy’n disgwyl wrthyt er iddynt ofni i
Ti droi i ffwrdd oddi wrthynt;
Ti sy’n torri ar draws ein meddyliau, ein breuddwydion, a’n crwydradau
gydag angerdd a grym a fflam dy gariad tuag atom…
Dywedwn eto ac eto,
Pwy sydd yna fel tydi?
Ti sy’n dod atom mewn marwolaeth ac yn cynnig i ni wir fywyd;
Ti sy’n ein helpu i ddeall yng nghanol pob un o’n gofalon a’n hymdrechion mai
Ti yw’r Creawdwr byw ac agos, nid un sydd draw, draw ymhell fan yna wyt Ti,
ond yma gyda ni yn ein hangen a’n heisiau ohonot Ti…
Ti yw’r un sy’n ein caru ni mor ddwfn ac yn gofalu amdanom yn ddiamod, yn
disgwyl ac yn aros amdanom mor addfwyn ac amyneddgar.
‘Rwyt ti, O Dad, yn galw arnom mor dyner ac am lywio ein bywyd mewn
trugaredd a thosturi a maddeuant pur.
‘Rwyt ti am ein hargyhoeddi’n llwyr
er mai trwy ddrych tywyll yr edrychwn, er hynny fe allwn ganfod adlewyrchiad
byw a real ohonot Ti, Y Duw byw, Crëwr pob goleuni a sail ein gobaith heddiw
ac i’r yfory...
Helpa ni felly i ymateb yn ddiolchgar i Ti ,
Wrth i ni geisio dy gyfarch ac agosáu at Un sydd yn hollalluog ac yn bresennol
ym mhob man,
Cynorthwya ni i gydnabod dy fawredd difesur ac anhraethol sydd tu draw i’n
dychymyg a’n deall dynol.
Dyro o’th ras tyner i’n galluogi i blygu o’th flaen mewn gwir ostyngeiddrwydd a
gonestrwydd,
Cod ni lan o waelodion ein bodolaeth frau drwy oruchafiaeth dy gariad Di ac
ysgoga ni i rannu gydag eraill ddirgelwch rhyfeddol dy gariad a’th faddeuant i’r
gwannaf a’r gwaethaf ohonom fel y tosturiaist wrth y lleidr ar groes Calfaria
gynt gyda’th anadliadau olaf.
Nid oes gan neb gariad mor rymus a grasol â Thydi, maddau i ni felly pob dewis
ffôl a chostus a phoenus yn ein byw a chaniatâ i ni gychwyn newydd dan
arweiniad dy gariad difesur a diddiwedd.
Wedi trin a thrafod ar ddechrau'i bregeth swyn ac apêl, her a chymorth damhegion Iesu, trodd Gwilym ein sylw’n benodol at ddameg y Mab Afradlon [Luc 15: 11-32]. Echel y myfyrdod oedd y cymal: Yna daeth ato’i hun...(15:17a). Beth tybed a ddaeth â hwn ato’i hun a’i yrru adref yn ôl i goflaid ei dad, a gwg ei frawd? Hiraeth? Edifeirwch? ‘Stumog wag? Ychydig o’r tri efallai. Pethau cymysg, dyrys felly yw cymhellion dyn. Mynnai Gwilym fod y tad yn y ddameg yn gorfod ceisio ymdopi â dau fab, y naill a’r llall yn anodd eu trin, ond er y gwahaniaeth rhyngddynt, yr un yw ymateb y tad: cariad, maddeuant a derbyniad. I’r sawl sydd yn penderfynu Fe godaf, ac fe af at fy nhad...estynnir heddiw, gan yr Ystafell Fyw coflaid cariad a gofal, nid gwg beirniadaeth ac amheuaeth. Boed i’r Sul hwn ein hatgoffa o’r angen cyson i ymateb i’r sawl sydd yng ngwlad bell ei dibyniaeth - beth bynnag bo gwraidd a natur y ddibyniaeth honno - â choflaid gofal.
Hyfryd oedd cael cwmni Garry Nicholas (Llan-non, Llanelli) yn ein Hoedfa Hwyrol heno. Cawsom ein harwain yn ddiogel ganddo ar hyd llwybr addoliad heno: ei destun oedd pwysigrwydd ac arwyddocâd canu a cherddoriaeth. Roedd i’r bregeth heno, nid dau destun, ond testun ag iddi ddwy ran: Ar yr helyg...crogasom ein telynau (Salm 137:2 WM); a hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw... (Actau 16.25).
Cameo bach trawiadol a byw iawn a geir yn Salm 137. Mae Jerwsalem wedi syrthio i ddwylo brwnt y gelyn - y ddinas sanctaidd a’r Deml yn sarn ac yn sarhad. Mae’r Iddewon yn cael eu symud fel gwartheg i dir y gelyn. Â hwythau wedi gorfod gadael y cyfan ar ôl - eu dinas hoff a chysegredig, eu gwlad, y Deml, eu cartrefi a’u hanwyliaid - distewid y gân. Gwaith anodd yw ceisio canu a lwmp yn eich gwddf, a’ch calon yn torri: Ar yr helyg...crogasom ein telynau. ‘Does dim rhyfedd fod eu gofid trwm wedi distewi’r gân. Dyma nhw, yn eistedd, yn wylo, yn cofio - mae cerddoriaeth wedi peidio â bod iddynt, yr alaw ar goll.
Wrth droi i bennod 16 o Lyfr yr Actau ceir cronicl o ddigwyddiadau cyffrous. Sonnir am guro â gwialen, carchar, ceidwad carchar, cleddyf...canu...a chredu. Dyma Paul a Silas yn canu. Nid yw’r amgylchiadau’r ddau garcharor wedi distewi’r canu, ond wedi deffro’r gân! Yn hytrach na chrogi eu telynau ar yr helyg fel yr alltudion, mae’r carcharorion hyn yn canu!
Tynnodd Garry ein sylw at y gwrthgyferbyniad rhwng y bobl yn y ddau hanes. Maent yn gwrthod canu mawl i Dduw ar ddechrau Salm 137 ond mae Paul a Silas yn mynnu canu mawl i Dduw er gwaethaf eu hamgylchiadau yn Actau 16. Pwysleisiodd mai canu sy’n pontio’r ddwy ran a bod y ddynoliaeth dros yr oesoedd wedi mynegi eu breuddwydion a’u teimladau dwysaf trwy ganu. Mae ein hemynau a’u tonau yn hollbwysig inni, ond a ydym yn ystyried beth yw arwyddocâd y geiriau wrth eu canu? Iesu Grist ddeffrodd y gân yn hanes Paul a Silas. Gofynnodd Garry os ydyw ein ffydd - beth bynnag bo’n hamgylchiadau - yn peri inni ganu mawl i Dduw gan ddatgan gyda William Williams (1717-91) Iesu, Iesu, 'rwyt ti’n ddigon... (CFf.:320)? Iesu Grist yw ein gobaith, ef yw testun ein cân; Iesu sydd yn deffro, a dyblu’r gân.
Diolch am genadwri’r naill bregethwr a’r llall, a boed bendith arnynt ill dau.
Fel y Sul diwethaf, cafwyd cyfle i rannu sgwrs ac estyn lluniaeth i un o gyfeillion digartref y ddinas ar ddiwedd yr Oedfa Foreol.
Dymunwn yn dda i Iona Lotwick a Claude Le Razavet ar eu priodas ym Minny Street yfory.
Boed wenau Duw ar ESGYN: Dathliad Cristnogol yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, nos Sadwrn, Hydref 31, i gynnwys lansio fersiwn argraffedig o beibl.net
Bydd y Gweinidog yn ôl yn ein plith y Sul-pen-mis. Oedfa i’r Teulu a Chymundeb bore Sul am 10:30. Y rhif '3' fydd echel yr oedfa a thema adnodau’r oedolion fydd: GWASANAETHU. Ei braint fel eglwys yw cael bod yn gyfrifol am de i’r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis pnawn Sul. Liw nos: yr enw sydd goruwch pob enw... (Philipiaid 2:9) fydd testun ein sylw. Cafodd Iesu’r enw’n faban; hawliodd yr enw’n ddyn; ceidw’r enw fel Arglwydd byw. (Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r ddwy Oedfa).