Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (6): Y Winllan a’r Tenantiaid (Marc 12: 1 - 12)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Gwrthryfelodd yr Iddewon yn erbyn y Rhufeiniaid; dinistriwyd y Deml. Pam? Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Efengyl Marc: Pennod 12. Iesu yn Jerwsalem: "... wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid yn dod ato, ac meddent wrtho, ‘Trwy ba awdurdod yr wyt ti’n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti’r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?’" (Marc 11:27 - 28) Pwy roddodd i Iesu’r awdurdod? Pam dilyn Iesu?
Dameg y Winllan a’r Tenantiaid. Fe blannodd dyn - Duw - winllan - perthynas Duw a phobl. Gosododd hi i denantiaid - Israel/Iddewon/Iddewiaeth (Marc 12: 1). Pan ddaeth yn amser, anfonodd was ... (g)was arall ... ac anfonodd un arall (Marc 12: 2 a 4-5); amarch, dolur, niwed a lladd. Pwy yw’r gweision? Y proffwydi. Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl - Iesu - anfonodd ef atynt (Marc 12: 6) ... ‘Roedd Duw, y Tad yn hyderus y byddai’r tenantiaid yn parchu ei fab. Hyder a siomwyd: ... dywedodd y tenantiaid ... "Hwn yw’r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni" (Marc 12: 7). Amlygir ffolineb dall ac anobeithiol Israel, Iddewon ac Iddewiaeth. Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill (Marc 12: 9) - ni yw’r eraill a’n heiddo ni yw’r winllan bellach: yr Eglwys Gristnogol. Dehongliad a dull o ddehongli sy’n wenwyn! Bu gwrth-semitiaeth yn amlwg ym mhenawdau newyddion yr wythnos a aeth heibio. Bu gwrth-semitiaeth yn amlwg yn ein crefydd a’n crefydda ninnau hefyd ers canrifoedd. Troesom Efengyl Cariad yn hunllef o hiliaeth a chreulondeb, a phenllanw enbyd y creulondeb hwnnw oedd Auschwitz-Birkenau.
Gan gofio cyd-destun ysgrifennu Efengyl Marc, ail-ystyriwn y ddameg. Duw yw’r dyn a darlun yn dynodi Israel yw’r winllan (Jeremeia 2:21; Eseciel 15: 1-6, 19:10 a 14 a Hosea 10:1). Dewisodd Duw'r Genedl i fod yn bobl briodol iddo. Saif y tŵr am y Deml, a’r clawdd am y Ddeddf, y llafurwyr am arweinwyr y genedl: Sadwceaid, Phariseaid, Selotiaid, Eseniaid; a’r gweision, y proffwydi. ‘Roedd Duw yn hyderus y byddai’r tenantiaid yn parchu ei fab; fe’i siomwyd. Amlygir ffolineb dall ac anobeithiol y Phariseaid. Diflannodd y Sadwceaid, y Selotiaid a’r Eseniaid gyda dinistr y Deml a chwymp Jerwsalem; erys y Phariseaid, ond rhoddwyd y winllan i eraill. Credai Marc, a’r Iddewon Cristnogol, mae hwy yw’r eraill. Apêl Iddew at Iddewon yw Efengyl Marc. Dilynwch Iesu. Pam? Y maen - Iesu - a wrthododd yr adeiladwyr - y Phariseaid -, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfeddol yn ein golwg ni? (Marc 12: 10-11) Dehongliad, a dull o ddehongli sy’n wenwyn, ac yn wenwyn cyfoes iawn.
Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2016. Credai Marc a’r Iddewon Cristnogol fod yn rhaid bychanu’r Phariseaid. Difyr ystyried beth fyddai wedi digwydd pe byddai’r ddwy garfan wedi gweld a deall fod Cariad Duw yn cael ei amlygu yn, a thrwy'r ddau. Ffrae deuluol oedd hon; Iddew yn lladd ar Iddew. Heddiw, ym mhob enwad a thraddodiad, gwelir ôl ffrae deuluol debyg. Ceir trwch o wahanol enwau; ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae ‘Efengylwyr’ a ‘Rhyddfrydwyr’. Myn ambell un mai Ffwndamentalwyr yw pob Efengylwr, tra myn arall nad Cristnogion yw’r Rhyddfrydwyr! Cawn Gristnogion ‘Efengylaidd’ a ‘Rhyddfrydol’, ac eglwysi ‘Rhyddfrydol’ ac ‘Efengylaidd’. Oni wna’r labeli hyn anghyfiawnder â daliadau didwyll y naill a’r llall? Onid yw’r pegynnu sydd mor amlwg ymhlith Cristnogion Cymreig yn bwrw ei wenwyn ar lif ein cenhadaeth i Gymru? Mae Cariad Duw yn fwy na’r deall Rhyddfrydol ac Efengylaidd Cristnogol ohono!
Heb fod Efengylwyr a Rhyddfrydwyr Cristnogol Cymru yn meithrin parodrwydd i wrando ac i drafod safbwyntiau ei gilydd, onid gwastraffu ein hamser fyddwn yn gosod, ac ailosod cadeiriau, tra bod y llong yn brysur a sydyn suddo?