Y Gweinidog a’i deulu oedd heddiw yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar. Siomwyd pawb, gan i’r ddau blentyn gael y fath gam gan eu tad!
Truan â Connor. Gwahoddwyd ef i chwarae gêm o gardiau: Whist. Mynnai’r Gweinidog mae Spades oedd y trumps. ‘Roedd cardiau’r tad yn wych - yn syndod o dda. Ond, ‘roedd cardiau’r mab yn ddychryn o wael. Wrth i’r gêm ddatblygu sylweddolodd pawb, o’r ieuengaf i’r hynaf, fod ein Gweinidog yn twyllo! Rhag blaen sicrhaodd iddo ef ei hun y cardiau gorau, gan warantu felly nad oedd gan Connor y gobaith lleiaf o chwarae’r gêm yn iawn, heb sôn am ennill. Beth a wnelo hyn â thema’r Oedfa: Cymorth Cristnogol? Oni chawsom ni'r 'cardiau' gorau mewn bywyd: maeth digonol a chyflenwad cyson, cyfleus o ddŵr glân; addysg a chyfle; rhyddid a diogelwch. Mae Wythnos Cymorth Cristnogol (15-21/5) yn gyfle i ystyried a chefnogi o ddifri'r ymdrechion a wneir gan yr elusen arbennig hon i unioni’r cam, gan sicrhau fod 'gêm' bywyd yn decach o lawer, a bod gan bawb felly, ymhell ac agos, diogelwch a rhyddid, cyfle ac addysg, dŵr glân a maeth digonol.
Plant y Gweinidog yn sylweddoli iddynt gael eu twyllo ganddo!
Ond, mae mwy i waith Cymorth Cristnogol na chodi ymwybyddiaeth o wir faich tlodi. Ânt i’r afael ag achosion y tlodi hwnnw: newid hinsawdd; rhagfarn ac anwybodaeth; malaria, HIV ac osgoi trethi. Amcangyfrifir bod osgoi talu trethi yn costio $160bn bob blwyddyn i'r gwledydd tlawd; mwy o lawer na’r cymorth rhyngwladol a gynigir iddynt! Ceisiwyd cyfleu hyn trwy gyfrwng gem arall o gardiau. Shani cafodd gam y tro hwn: sicrhawyd iddi gardiau da. 'Roedd gobaith iddi chwarae, ac efallai ennill gyda’r cardiau hyn …, ond buan y sylweddolwyd fod y Gweinidog yn twyllo eto! ‘Roedd wedi sicrhau fod ganddo’r trumps i gyd. Er bod cardiau Shani’n dda, nid oedd y gobaith lleiaf ganddi i ennill. Er mor bwysig yw ymateb yn barod a hael i apêl flynyddol Cymorth Cristnogol i gynorthwyo’r bobl sydd yn dioddef yn sgil tlodi byd-eang, rhaid hefyd gweithio a chyd-weithio i ddileu achosion creiddiol y tlodi hwnnw.
Wedi hyn oll, cawsom fyfyrdod a gweddi gan Shani a Connor a chael ein cyflwyno, gan Lona, i Morsheda. Mae Morhseda a’i phlant yn byw ar ynys yng nghanol un o afonydd mawr Bangladesh. Nid ynysoedd o graig ydynt; crëwyd hwy gan y llaid a’r gwaddod sy’n llifo gyda’r afon. Golyga hyn eu bod yn ynysoedd bregus iawn. Os yw’r ynysoedd yn fregus, felly hefyd mae bywyd y bobl hynny sy’n byw arnynt. Stori’r bobl hyn fydd yn cael ein sylw yn Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Boed i’r Wythnos arbennig hon, eleni eto, fod yn gyfle ac yn gyfrwng i ddatod llinynanu trugaredd ein calon.
Cafwyd ychwanegiad gwerthfawr i gerddorfa'r eglwys heddiw: dwy ffliwt! Dwy ffliwt fechan, ond soniarus. Da oedd cael cwmni’r gerddorfa; diolch i Gwen, Mali, Mared a Shani
Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol. Ers mis Medi, buom yn dilyn cyfres o bregethau: 'Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc'.
Cytunir mai Marc yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig ... a cholli. Bu methiant, siom ... a dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml. Yr Ymerodraeth a orfu. Ysgrifennwyd y cynharaf o’r Efengylau yn yr un cyfnod â chwymp Jerwsalem a dinistr y Deml tua’r flwyddyn 70. Heddiw, yng nghyd-destun cwymp Jerwsalem a dinistr y Deml, bu’r Gweinidog yn dehongli Dameg y Winllan a’r Tenantiaid (Marc 12:1-12; cafwyd eisoes cofnod o’r bregeth ar y wefan). Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill (Marc 12:9 BCN). Cawsom ein cyflyru i gredu mai nyni - yr Eglwys Gristnogol - yw’r eraill yn yr adnod hon. Eiddo ni'r winllan bellach. Yr Eglwys Gristnogol yw'r Israel Newydd. Mae’r dehongliad, a’r dull o ddehongli yn wenwyn. Bu Gwrth-semitiaeth yn amlwg yn ein crefydd a’n crefydda ninnau ers canrifoedd. Bu Cristnogion ar hyd y canrifoedd, yn y drwg a wnaethom, a'r da nas gwnaethom yn dilorni Iddewiaeth, ac erlid Iddewon. Troesom efengyl Cariad yn hunllef o hiliaeth a chreulondeb, a phenllanw enbyd y creulondeb hwnnw oedd Auschwitz-Birkenau.
Er pob tamaid o dystiolaeth - mewn cannoedd o lyfrau, dogfennau a chyhoeddiadau - erys gwers y gwersyll yn Auschwitz-Birkenhau heb ei ddysgu. Mae diwinyddion a phregethwyr yn hau gwenwyn Gwrth-semitiaeth o hyd fyth o bulpud ac mewn erthygl a llyfr. Mae Gwrth-semitiaeth yn fyw ac yn iach, a bellach yn ffynnu a lledu. Byddwn, felly fel unigolion, eglwysi ac enwadau ar ein gwyliadwriaeth rhag pregethu llac, cyfathrebu diog a diwinydda bas.
Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid ... Gyda dinistr y Deml a chwymp Jerwsalem, - i raddau helaeth - diflannodd y Sadwceaid, Selotiaid, Eseniaid. Llwyddodd y Phariseaid i oroesi, ond nid hwythau, yn ôl Marc, mor tenantiaid rhagor. Rhoddwyd y winllan i eraill: yr Iddewon Cristnogol. Ffrae deuluol oedd hon; Iddew yn lladd ar Iddew. Heddiw, ym mhob enwad a thraddodiad, gwelir ôl ffrae deuluol debyg. Ceir trwch o wahanol enwau; ymhlith y mwyaf cyfarwydd mae ‘Efengylwyr’ a ‘Rhyddfrydwyr’. Myn ambell un mai Ffwndamentalwyr yw pob Efengylwr, tra myn arall nad Cristnogion yw’r Rhyddfrydwyr! Oni wna’r labeli hyn anghyfiawnder â daliadau didwyll y naill a’r llall? Onid yw’r pegynnu sydd mor amlwg ymhlith Cristnogion Cymreig yn bwrw ei wenwyn ar lif ein cenhadaeth i Gymru? Mae Cariad Duw yn fwy na’r deall Rhyddfrydol ac Efengylaidd Cristnogol ohono! Heb fod Efengylwyr a Rhyddfrydwyr Cristnogol Cymru yn meithrin parodrwydd i wrando ac i drafod safbwyntiau ei gilydd, onid gwastraffu ein hamser fyddwn yn gosod, ac ailosod cadeiriau, tra bod y llong yn brysur a sydyn suddo?
Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref y Tabernacl, yr Âis. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn. Liw nos, am 6; da oedd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys. Oherwydd absenoldeb anorfod y Parchedig Megan Williams (Ynys Môn), gwahoddwyd y Parchedig Denzil John, Tabernacl, yr Âis i bregethu.
 ninnau yng ngwawl Dydd Iau Dyrchafael, aeth Denzil i’r afael â goblygiadau’r Esgyniad trwy gyfrwng adnodau agoriadol Philipiaid 2 (1-18), a thri phen trawiadol: Cynnal Awyrgylch; Cynnal Buchedd; Cynnal Credo. Gofynnwyd i ni ystyried sut awyrgylch a berthyn i’n heglwysi - rhaid Cynnal Awyrgylch groesawgar, agored a chynhaliol. Boed i weddi Paul gael ei wireddu yn, a thrwy awyrgylch ein heglwysi: ... ar i’ch cariad gynyddu fwyfwy ... (Philipiaid 1:9a BCN). Rhaid Cynnal Buchedd ... trwy fod o’r un meddwl, a’r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac unfarn (Philipiaid 2:2 BCN) Y Duw a wel eraill, yw’r Duw a welant ynom ni. Boed i’n ffydd fod yn ffordd o fyw; ein cyffes yn amlwg mewn cymwynas, ein credo mewn caredigrwydd. Yn olaf, mae rheidrwydd arnom i Gynnal Credo: Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd yn wir yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu (Philipiaid 2:5 BCN). Rhaid gwybod i bwy y credwn; beth a gredwn, pam ac i ba bwrpas. Diolch am bregethu meddylgar a phregeth werthfawr.
Hyfrydwch, fel eglwysi’r ddinas, yw cael y cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Diolch am fendithion y Sul.