Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; y Pedwerydd Sul yn Adfent. Ein Gweinidog ac amryw o bobl ifanc yr eglwys fydd yn arwain yr Oedfa Foreol (10:30). Diolch rhag blaen i Lleucu; Siwan, Beca ac Owain; Nia ac Iestyn. Bydd Owain Llyr yn parhau ar gyfres o bregethau i’n tywys i’r Nadolig: ‘Gweledigaethau’. Daw tro annisgwyl i’r gyfres fore Sul gyda’r hyn a welodd mab Simeon a Hanna. Yn hwyr y prynhawn cynhelir Cyflwyniadau Nadolig ein plant a phlantos (17:00. Ymarfer am 15:30). Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu ac i bawb fydd yn cymryd rhan. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal yr Ysgol Sul trwy gydol y flwyddyn. Bydd parti’r Ysgol Sul yn dilyn y Cyflwyniadau, a mawr obeithir y bydd Siôn Corn yn medru galw heibio yng nghanol ei brysurdeb mawr.
Bydd y Casgliad Rhydd yn Oedfaon y dydd tuag at waith Cyngor Ysgolion Sul.
Adfent 2016: Dathlu’r Nadolig yng nghwmni’r Pantocrator: paned, trafodaeth a thamaid o ginio yn y Festri (20/12; 11:15-13:00).
Cynhelir Oedfa Noswyl Nadolig (24/12 yn y Festri am 23:30). Bore Nadolig (10:00) byddwn yn dathlu yn Eglwys y Crwys. Ein Gweinidog fydd yn pregethu.