Salm 34:11-17
Yma, cawn athro yn cyflwyno cyfres o ddiarhebion. Pwnc y wers yw ofn yr ARGLWYDD (Salm 34:11 BCN) a’r bendithion a ddaw i’r sawl a’i hofna - parchu - Ef.
I ofni’r ARGLWYDD nid digon cilio oddi wrth ddrwg. Peth peryglus yw daioni negyddol. Eiddo'r rhai a ofnant yr ARGLWYDD llygad a chlust Duw. Awgrymaf fod llygad yn cynrychioli gofal Duw, ac mae dweud fod clust yr ARGLWYDD gan bobl yn golygu mwy na’i fod yn gwrando eu gweddïau, golyga ei fod yn barod i’w bendithio.
Dysg im O! Dduw, dysg im pa fodd i ddweud a gwneuthur wrth dy fodd. Amen.