Cyfarchion yr Apostol
Philipiaid 1:1-2
Un o ddinasoedd Macedonia, gwlad ar eithaf dwyrain cyfandir Ewrop oedd Philipi. Adeiladwyd hi gan Phylip II, brenin Macedonia, tad Alexander Fawr. Safai Philipi ar y briffordd o Rufain i’r Dwyrain. Galwai'r Rhufeiniad y ffordd hon yn Via Egnatia. (Actau 16:12). Ceir hanes ymweliad cyntaf Paul â’r ddinas yn Actau 16, ar ei ail daith genhadol. Ar ôl cyrraedd Troas, ar gwr gorllewinol Asia Leiaf, cafodd Paul weledigaeth - gŵr o Facedonia, yn sefyll yn ei ymyl, ac yn deisyf arno i ddod drosodd i’w cynorthwyo. Aeth Paul ar ei union i Philipi. Ei gymdeithion oedd Silas, Luc a Timotheus. ‘Roedd Paul yn ddigon call i weld bod Philipi yn ganolfan hynod fanteisiol i ledaenu’r Efengyl. Dechreuodd Paul chwilio am Iddewon yn y ddinas y Sabath cyntaf ar ôl cyrraedd, ond ni allodd gael o hyd i synagog o’u heiddo. Pregethodd Paul yn hytrach i rai addolwyr ar lan yr afon. Cafodd gwrandawiad gan un wraig o’r enw Lydia. Credodd ei theulu gyda hi, a bedyddiwyd hwy oll. Wedi ychydig o drafferth gyda chaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth, carcharwyd Paul a Silas yn Philipi, ond daeth Duw i’r adwy. Ganed yr eglwys yn Phylip mewn erledigaeth, ond nid oddi wrth Iddewon. Meistri'r ddewines gododd cyffro yn Philipi oherwydd eu colled ariannol. Daliodd yr eglwys hon yn deyrngar i’r Efengyl er waetha’r erledigaeth, a hynny yn absenoldeb yr arweinwyr cyntaf. Dengys y llythyr nad oedd unrhyw anghydfod nad anghydweld ynddi. Yn yr eglwys yn Philipi cafodd Paul allwedd i gyfandir Ewrop.
Wrth ysgrifennu at yr eglwys yn Philipi, mae Paul, heb amheuaeth yn garcharor, naill ai yn Cesarea, Rhufain neu Effesus. Efallai mai hon oedd yr olaf o’i lythyron cyn ei farw (Phil 3:12-16). Ysgrifennwyd y llythyr yn bennaf i ddiolch am rodd a anfonwyd gydag Epaffroditus i helpu Paul (4: 18). Amcan y llythyr oedd diolch iddynt am eu caredigrwydd a’u codi i fwy bywyd uwch mewn ysbrydolrwydd ac ymddiriedaeth.
Gyda hynny o ragymadrodd, gawn ni droi at adnodau agoriadol y llythyr. Dyma air o gyfarch i’r holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi (1:1). Dyma ffordd arferol Paul o gyfarch ei frodyr a chwiorydd yng Nghrist. Pobl wedi ei neilltuo gan Dduw i fwriad Duw ydym. Pobl wedi ymgysegru i waith Crist yw’r ‘Saint’. Gweision Crist yw Paul a Timotheus. Gweision diddig. Pan yw Crist yn feistr y mae’r enaid yn rhydd.
Yn yr ail adnod, mae Paul yn dymuno gras a thangnefedd. Tangnefedd yw heddwch mewnol yr enaid, ac mae hwn yn ffrwyth gras. Mae’r geiriau hyn yn dangos gwir ddyfnder y parch sydd gan Paul i’r eglwys hon, er iddo gael amser digon diflas yn y ddinas ei hun. (1 Thes. 2:2 ac Actau 16). Mae Paul yn agor y llythyr gyda chyfarchiad personol i saint Philipi oddi wrth Timotheus ac yntau. Nid llythyr Dear Occupant neu To Whom It May Concern yw hon. Newyddion da personol, yw newyddion da Iesu Grist. Mae’r Duw sydd yn dad i bawb yn dad i neb. Hanfod gweinidogaeth Iesu oedd cael pobl i ddeall fod cariad Duw yn rhywbeth real iddynt hwy fel unigolion.
Sylwch fod Paul yn sôn am ddau gyfeiriad: at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi (1:1). Mae gan bob Cristion dau gyfeiriad. Lle rydym yn byw Caerdydd neu Caersws, a’r llall yw ein cyfeiriad tragwyddol - yng Nghrist. Mae pobl Crist, ym mhob cwr a chornel o’r byd yn rhannu’r un cyfeiriad - yng Nghrist.
I ysgogi trafodaeth:
Nid darganfod ei ryddid yw dyletswydd gyntaf yr enaid, ond yn hytrach ei feistr. (P. T. Forsyth)
Wrth ystyried Actau 16, trafodwch brofiad Paul a geiriau Pedr Fardd:
Mae mwy o bleser yn dy waith
Na dim a fedd y ddaear faith.
Beth yw gras a thangnefedd?