Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol 10:30 dan arweiniad aelodau a chyfeillion Rhiwbeina. Cynhelir Ysgol Sul. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal y Diaconiaid. Eto, bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.
Ein braint fel eglwys, pnawn Sul (14:30), fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Ar ddechrau tymor newydd Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, llongyfarchwn y Swyddogion a’r Pwyllgor ar baratoi rhaglen mor ddiddorol, a llawn amrywiaeth. Ein man cychwyn (1/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Eifion Glyn: ‘Her Afghanistan’.
Babimini bore Gwener (4/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Minny’r Caffi pnawn Gwener (4/10; 14:00-15:30 yn y Festri): cyfle i ofalwyr a’u hanwyliaid sy’n byw gyda dementia a heriau tebyg ddod at ei gilydd am ysbaid o ymlacio. Boed bendith. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gychwyn y fenter bwysig hon.
‘Bore’ Coffi bore Sadwrn (5/10; 10:30-14:00) er budd ein helusen eleni, Maggie’s.