Ein Hoedfa Foreol
Oedfa Foreol am 10:30! Dewch â chroeso. Dwy homili sydd gan ein Gweinidog ar ein cyfer, y naill yn amlygu gwers yr ‘Eiddo Coll’ a’r llall yn ymdrin â phwysigrwydd allweddau. I’r plant a phlantos, ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Buddiol buasai troi rhag blaen at Mathew 16:13-20; Salm 119:176a a Luc 19:10.
Cofiwch fore Sul! Hanner Marathon Caerdydd!
Bydd yr heolydd i gyd ar agor ar gyfer yr Oedfa Hwyrol.
Liw nos (18:00) bydd Owain Llyr yn ein hannog i ystyried neges y ffigysbren. Awgrymir darllen Luc 13:6-9 i baratoi i’r Oedfa. Beth sydd orau i wneud â ffigysbren nad sydd yn dwyn ffrwyth? Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol a Hwyrol.
Ein Hoedfa Hwyrol
PIMS nos Lun (7/10) Minny Golff! Manylion llawn yng nghoeddiadau’r Sul.
Nos Fawrth (8/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (9/10): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (10/10; 19:30; yn Salem, Treganna): Aled John, o gwmni Rondo, cyfarwyddwr Dechrau Canu, Dechrau Canmol, yn cyflwyno portread o feddwl ac amcan y gyfres.
Bore Coffi (12/10; 10:30-12:00) ynghyd â stondinau er budd Cymdeithas y Beibl yn Eglwys Dewi Sant.