Pregeth bore Sul
Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). I’r plant a phlantos, sgwrs am bethau hyll; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain yn dechrau cyfres newydd o bregethau’n seiliedig ar Lythyr Paul at Gristnogion Rhufain, ond ... mae’r gyfres yn dechrau gyda’r bennod olaf! Buddiol felly buasai troi rhagblaen at Rufeiniaid 16.
Braint eto, pnawn Sul (14:30), fydd cael bod fel eglwys, yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos, (18:00) dechrau cyfres newydd (arall eto) o bregethau: ‘Adnodau Ych!’. Bwriad Owain yw mynd i’r afael â’r darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny. Ystyriwn, er enghraifft y Salmau Dial: Salmau 35, 58, 59, 69, 83, 109 a 137. Geilw rhai o’r Salmau hyn am y driniaeth fwyaf annynol posibl i’r gelyn, ac ni ddichon unrhyw glyfrwch esboniadol eu cyfiawnhau! Testun ein sylw nos Sul fydd: Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig (137:9 BCN).
Pregeth nos Sul
Nos Lun (21/10; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (22/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Bore Gwener (25/10; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod Llythyr Paul at Gristnogion Philipi.