Testun y dysgu a’r trafod yn ’Bethania’ eleni fydd Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 8:30-35
Yng nghyfnod cynnar Israel, cyn i Jerwsalem ddatblygu’n brif ganolfan crefyddol y genedl dan Dafydd a Solomon, roedd nifer o gysegrleoedd ar hyd a lled y wlad. Yn yr hen fyd roedd yr arferiad o godi cysegrle yn adlewyrchu’r cysylltiad agos ym meddwl pobl rhwng addoliad a lleoedd arbennig. Datblygodd Bethel, Peniel a Beerseba, er enghraifft, yn ganolfannau addoliad yn Israel am eu bod eisoes yn lleoedd pwysig ar fap crefyddol y bobl. Y cysylltiad hwn rhwng lle ac addoliad sy’n cyfrif i raddau am bwyslais yr Hen Destament ar bererindota. Disgwylid i’r Israeliaid fynd yn rheolaidd i gysegrle cyfagos ac ymuno ag eraill mewn gweithred o addoli trwy aberthu i’r Arglwydd a gwrando'r offeiriad yn darllen y gyfraith.
Addoliad o’r math yma sy’n cael ei ddisgrifio yn yr adnodau hyn. Y mae Israel wedi cyrraedd Shechem yn y dyffryn rhwng Mynydd Ebal a Mynydd Gerisim. Y mae Josua yn ufuddhau i orchymyn ei feistr (gweler Deuteronomium 27:1-8). Ar ôl codi allor, y mae’n gwneud copi newydd o’r gyfraith ac yn ei ddarllen i’r bobl. Disgrifiad yw hwn o seremoni adnewyddu’r cyfamod a wnaeth Duw ag Israel ar Sinai. Wedi derbyn ei hetifeddiaeth, y mae’r genedl yn adnewyddu ei haddunedau i Dduw. Tra pery’r arferiad yma nid yw Israel yn debygol o ddiystyru ei Chrëwr a’i Gwaredwr nac anwybyddu’r ffaith fod cyd-addoli yn arwydd o berthyn ac undeb.
Yng nghanol bwrlwm bywyd hawdd yw i ni golli golwg ar ein treftadaeth ysbrydol ac anghofio eiddo pwy ydym. Y mae ein cysegrleoedd, a’n haddolid o Sul i Sul, yn ein hatgoffa ninnau hefyd ein bod yn chwiorydd a brodyr i’n gilydd ac yn blant i Dduw trwy gariad a gobaith, mewn ffydd.
Josua 9:3-21
Roedd pobl Gibeon yn benderfynol o osgoi tynged Jericho ac Ai. Ond yn lle ceisio amddiffyn eu dinas a pharatoi i ymladd â’r Israeliaid, aethant ati i gynllunio sut i gael cytundeb a hwy drwy dwyll. Roeddent yn sicr na fyddai Josua yn eu derbyn fel cyfeillion pe gwyddai eu bod yn byw yn ei ymyl. Felly, cymerasant arnynt eu bod wedi dod o bell trwy wisgo sandalau a dillad carpiog. Llwyddodd yr ystryw, a gwnaeth Josua gyfamod a hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw (adnod 15).
Ar ôl cael eu twyllo i ddod i delerau a’u gelynion, nid yw’n syndod fod pobl Israel am waed y Gibeoniaid. Yn eu barn hwy, roeddent yn haeddu’r gosb eithaf am ymddwyn mor ddichellgar. Cytundeb neu beidio, nid oedd unrhyw reswm dros i’w harweinwyr fod yn galon feddal. A’r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion (adnod 18). Gwrthododd Josua wrando ar eu cwyn. Yn ei olwg ef yr oedd buddugoliaeth foesol yn bwysicach na buddugoliaeth filwrol. Roedd wedi addo, yn enw Duw, wneud cyfamod heddwch â phobl Gibeon a pheidio â lladd yr un ohonynt, Nid ai yn ôl ar ei air.
Wrth wrando ar Josua, fe sylweddolodd Israel fod ffyddlondeb i Dduw ganmil mwy gwerthfawr na grym eu harfau. Y diwrnod hwnnw cafodd y genedl fuddugoliaeth uwch nag unrhyw fuddugoliaeth faterol.
Josua 10:1-4
Dyma Pantycelyn:
Gosod pabell yng ngwlad Gosen,
Tyred, Arglwydd, yno d’hun,
Gostwng o’r uchelder golau,
Gwna dy drigfan gyda dyn;
Trig yn Seion, aros yno
Lle mae’r llwythau’n dod ynghyd,
Byth na mad oddi wrth dy bobol
Nes yn ulw’r elo’r byd.
Gosod pabell yng ngwlad Gosen ...
Gosen?
Mae sôn am wlad Gosen yn y bennod hon o Lyfr Josua.
Roedd trigolion dinas Gibeon wedi ildio i fyddinoedd Josua, ac felly roeddent dan ofal Josua. Ymosodwyd ar Gibeon gan bum dinas gyfagos. Roedd yn rhaid i Josua a’i fyddinoedd ddod i’r adwy, ond ‘roeddent wedi symud taith sawl diwrnod ymlaen o Gibeon. Buasai’n anodd i Josua medru dychwelyd mewn pryd i achub Gibeon, ond bu gwyrth: arhosodd yn yr haul yn llonydd, safodd amser yn stond os mynnwch, gan roi cyfle i Josua ddychwelyd a threchu byddinoedd y pum brenin. Digwyddodd hyn oll yng ngwlad Gosen.
Gosod pabell yng ngwlad Gosen ...
Yn ein hymdrechion dros Deyrnas Dduw, mae’n hawdd digalonni, a theimlo na fydd modd i ni lwyddo, ond yn ein Gosen ni, mae Duw wedi gosod ei babell, gwnaeth ei drigfan gyda ni. Daeth atom, i aros. Y mae nawr fel erioed o blaid ei bobl.
Gosod pabell yng ngwlad Gosen ...
Gosen?
Mae sôn am wlad Gosen hefyd yn Llyfr Genesis.
Yn stori Joseff. Wedi i’r brodyr sylweddoli fod Joseff yn fyw ac yn iach, daeth cyfle iddynt ddychwelyd at Jacob i ddweud wrtho fod Joseff yn fyw, ac yn llwyddo yn yr Aifft. Wedi clywed y newyddion da, bywiogodd Jacob drwyddo, ac er gwaetha’i lesgedd a’i henaint y mae’n mentro’r daith i ... wlad Gosen. Gwlad Gosen a neilltuwyd gan y Pharo a Joseff yn dir i Jacob a’i feibion, hyd nes i’r newyn mawr lacio’i afael.
Gosod pabell yng ngwlad Gosen ...
Cymod, brawdgarwch, tad a mab yn adfer perthynas.
Daeth y llwythau ynghyd.
Yn yr adfer a’r cymodi mae Duw ar waith - gosododd ei babell yng ngwlad Gosen.
‘Roedd Pantycelyn yn gwybod yr hyn na wyddai’r brodyr. Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad ... oherwydd y mae’r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan meddent wrth y Pharo. Dim ond dros dro, dros dymor y newyn, ac yna dychwelyd i Ganaan. Ni wyddent am y dyddiau anodd oedd ymlaen, a’r caledi dychryn a oedd yn aros eu disgynyddion yn yr Aifft. Mae llyfr Genesis yn gorffen yn hapus, ond mae Exodus yn agor gyda sgrech o boen. Trodd gwlad Gosen y wlad o boen a chaethiwed. Ond, yng ngwlad Gosen mae Duw yn gosod ei babell.
Cynhaliaeth, cefnogaeth, nerth at y gofyn ac yn ôl y dydd.
Gosod pabell yng ngwlad Gosen,
Tyred, Arglwydd, yno d’hun,
Gostwng o’r uchelder golau,
Gwna dy drigfan gyda dyn ...