Ein Hoedfa Foreol Gynnar
Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (13/10 am 9:30 yn y Festri). Testun ein sylw fydd un o ffrindiau Iesu ... ond pa un? Bydd rhaid i chi ddyfalu! Dewch â chroeso.
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan barhau â’r gyfres newydd o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun sydd gan Owain ar ein cyfer. Gellid rhag blaen ystyried yn weddigar yr adnodau hyn:
Ein Hoedfa Foreol
Wrth Dduw yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth. (Salm 62:1)
... ymddiddenwch â’ch calon ..., a thewch. (Salm 4:4)
A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. (Philipiaid 4:7)
Liw nos, byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser (yn Eglwys Canol y Ddinas, Windsor Place): pregethir gan y Parchedig Hywel Meredydd Davies (Llangefni). Sylwer ar yr amser: 17:30. Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.
Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (15/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Connor Evans: ‘Cynhadledd Ewropeaidd Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang yn Utrecht.’
Babimini bore Gwener (18/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Minny’r Caffi pnawn Gwener (18/10; 14:00-15:30 yn y Festri): cyfle i ofalwyr a’u hanwyliaid sy’n byw gyda dementia a heriau tebyg ddot at ei gilydd am ysbaid o ymlacio. Boed bendith. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gychwyn y fenter bwysig hon.