'BETHANIA': LLYFR JOSUA (3)

Josua 4:1-8; 15-24

Gwyddai Josua mor awyddus fyddai’r genhedlaeth nesaf i wybod ystyr y gromlech o ddeuddeg carreg yn Gilgar ger Jericho.

‘Beth mae'r rhain yn ei olygu i chi?’ fyddai’r cwestiwn, ac roedd Josua yn awyddus fod iddo ateb clir a phendant.

Dylai’r genhedlaeth nesaf ddysgu fod y cerrig wedi eu gosod yno er mwyn atgoffa Israel o gariad yr Arglwydd Dduw tuag ati yn y gorffennol. Roedd y gromlech yn dyst o’r ffaith nad trwy ei hymdrechion ei hun y daeth y genedl yn ddianaf o’r Aifft a meddiannu Canaan, ond trwy nerth a thrugaredd Duw.

Disgwylir i’r Cristion hefyd fedru ateb y sawl sy’n ei holi am ei ddaliadau crefyddol. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch, oedd cyngor awdur llythyr cyntaf Pedr (3:15). Teimlai yntau, fel Josua fod y byd yn disgwyl i gredadun fod yn barod i rannu cyfrinach ei ffydd ag eraill.

Mae’r cwestiwn ‘Beth yw sail eich cred?’ ynddo’i hun yn arwyddocaol. Awgryma fod eraill wedi sylwi ar ein ffydd ac ar y gweithredoedd sy’n deillio ohono. Tybiant, yn ddigon naturiol, fod ein cred yn chwarae rhan bwysig yn ein byw a’n bod, ac y maent o’r herwydd, am wybod mwy amdani. Wrth geisio ateb cwestiwn o’r fath, fe’n hysgogir i ystyried faint yn hollol mae ein ffydd yn ei olygu i ni.

Josua 5:13-15

Gwersyllodd Josua heb fod ymhell o Jericho. Bellach, roedd taith yr anialwch a chroesi’r Iorddonen y tu cefn iddo - roedd popeth drosodd yn llwyddiannus. Nawr, wrth weld cyflawni’r addewid o roi cartref i’r genedl, onid oedd yr hen ryfelwr yn haeddu gorffwys ar ei rwyfau am dipyn? Onid dyma gyfle i ymlacio ar ôl deugain mlynedd o helbul a thrafferth? Ond nid fel yna y bu hi. Mewn gweledigaeth fe ymddangosodd tywysog llu'r yr Arglwydd iddo â chleddyf yn ei law. Mae’r ffaith fod yr hanesyn yn gorffen yn swta yn awgrymu fod diweddglo ar goll. Fel rheol, y mae storïau o’r fath yn cael eu cynnwys yn y Beibl i esbonio bodolaeth cysegrle neu allor (Cymharer hanes gweledigaeth Jacob ym Methel; Genesis 28:10-22). Diweddglo neu beidio, y neges i Josua oedd mai ymdrech, nid hawddfyd, fyddai cyfran Israel wedi croesi’r afon.

Y mae perygl i’r Cristion, fel yr Israeliaid gynt, ddibrisio’r frwydr. Mae awdur y Llythyr ar yr Effesiaid yn ymwybodol iawn o’r dylanwadau drygionus sy’n bygwth dilynwyr Crist. Fe gymell ei ddarllenwyr i ymarfogi â holl arfogaeth Duw er mwyn gwrthsefyll y pwerau ysbrydol sy’n ceisio tanseilio’u ffydd a difetha’u bywyd. Y mae’r bywyd Cristnogol yn cynnwys brwydrai sy’n gofyn am feddwl effro ac ystyriaeth fanwl.

Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. (Effesiad 6:11-12)

Josua 7:1-9

Cyn cyrraedd pobl Israel, roedd gwlad Canaan wedi’i rhannu’n dywysogaethau bychain, pob un gyda’i phrifddinas ei hun.

Wedi concro Jericho, gorchwyl nesaf Josua oedd cymryd Ai, ac yn ôl adroddiad yr ysbiwyr, ni chai unrhyw drafferth i wneud hynny. Nid oedd angen i’r holl fyddin ddringo ato o ddyffryn yr Iorddonen; fe fyddai 3000 o filwyr yn hen ddigon! Ond cafodd Josua ei gamarwain. Daeth pobl Ai allan fel un ac ymlid yr Israeliaid i lawr ochr y bryn gan ladd llawer ohonynt. Aeth y cwbl yn groes i ddisgwyliadau Josua. Nid rhyfedd iddo rwygo’i ddillad a rhoi llwch ar ei ben mewn edifeirwch.

Dysgodd Israel y diwrnod hwnnw fod i lwyddiant ei beryglon. O’i chymharu â Jericho, ymddangosai Ai yn hawdd iawn ei threchu. Nid oedd angen gofyn am gymorth gan Dduw i ddarostwng lle mor fychan a disylw. Ar unwaith anfonwyd 3000 o ddynion gan ddisgwyl y byddai’r gaer yn eu dwylo cyn nos. Roedd Josua a henuriaid Israel wedi blasu buddugoliaeth wrth furiau Jericho, ond wedi anghofio pwy a’i rhoddodd.

Onid dyma’r perygl parhaus sy’n perthyn i’n llwyddiant? Yn ddiarwybod, gall wneud inni deimlo’n hunangynhaliol ac yn rhy hyderus. Gall ein hamddifadu o’n hymwybyddiaeth mai meidrol ydym a’n bod yn dibynnu am bopeth ar Dduw ein Tad.