Bore Sul (6/11), Oedfa i’r Teulu am 10:30. Parhawn i ystyried Ffrwythau’r Ysbryd gan ganolbwyntio’r mis hwn ar Dangnefedd Duw. 'Dominos Tangnefedd' fydd testun y sgwrs plant a chawn droi at y Wal Weddi, a thystio i fedydd Gruffydd.
Oedfa Gymundeb fydd liw nos (18:00). Testun y bregeth yw Actau 24:22a, 24 a 25: Ffelix. Dihiryn yn ôl pob hanes oedd Ffelix, llywodraethwr Jwdea. Galwyd Paul o’i garchar i sefyll gerbron Ffelix, a heb flewyn ar dafod cyhoedda ofynion yr Efengyl. Ni feddyliai Paul am lastwreiddio’r Efengyl i blesio na denu neb, fel y’n temtir ni i wneud heddiw. Fel Iesu, herio pobl i mewn i’r Deyrnas a wnâi Paul ac nid eu hudo. Hanfod pregeth ein Gweinidog yw’r sylweddoliad nad yw’r sawl sy’n canlyn Crist o hirbell byth yn canlyn yn hir. Os Iesu yw’r Ffordd, rhaid i bobl Iesu mentro’r Ffordd honno, doed a ddelo, costied a gyst.
Bydd cyflwyniad y Gweinidog i’r Cymundeb yn echelu a’r Siôr I a Guto Ffowc. Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Bethania nos Fawrth (8/11; 19:30-21:00). Dyma’r trydydd o’r cyfarfodydd buddiol hyn. Diolch i Rhun am ein croesawu. Y thema yw 'Cyfeillion Paul'. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn ymdrin ag amryw o’r cyfeillion rheini na roddir ond eu henwau ac ambell fan fanylyn amdanynt gan Paul.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (9/11): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Swper Elusennol yn yr Happy Gathering yn Nhreganna (9/11). Bydd ein helusen, Tŷ Hafan, yn derbyn hanner pris y tocyn (£20) drwy garedigrwydd Martin yn y tŷ bwyta. Dyma gyfle i fwynhau cymdeithas dros fwyd blasus a sicrhau cyfraniad teilwng tuag at ein helusen.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Fforwm yr Ieuenctid (nos Iau 10/11; 19:30 yn y Festri). Croesawir disgyblion o Ysgol Plasmawr i sôn am eu profiadau o ymweld â Lesotho. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.