'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog
‘Camp Lawn’ - peth anarferol i mi yw gwrando sylwebaeth chwaraeon ar y radio, ond y pnawn Sadwrn aeth heibio, ar daith, â llond y car o deulu'n mynnu cyffro diweddaraf y meysydd chwarae, rhaid oedd gwrando ‘Camp Lawn’. Gwrando, ie ... a dysgu. Gall y rheini ohonom sydd yn pregethu o Sul i Sul godi ambell arfer dda gan sylwebyddion chwaraeon Radio Cymru.
Y sylwebyddion orau yw'r sylwebyddion radio. Fel i bregethwyr, y gamp i’r sylwebyddion hyn yw cael cynulleidfa i deimlo’n rhan o rywbeth na allant mo'i weld. Fel y pregethwr, dim ond y gair llafar sydd gan y sylwebydd radio i gyflawni ei waith. Trwy gyfrwng ei ddefnydd o iaith, mae’r sylwebydd tan gamp yn llwyddo - â ninnau ymhell - i’n hargyhoeddi ein bod â rhan yng nghynnwrf y gêm - yn ‘bresennol’ fel petai.
Wedi meddwl, onid yw goslef ac iaith y sylwebydd yn newid gan ddibynnu ar ba gamp sydd dan sylw? Mae'r sibrydiad golff yn fwy agos atoch na'r hir-floedd pêl-droed. Pan mae pêl-droediwr yn sgorio, mae llais y sylwebydd yn cyfateb ag ergyd y bêl. Pan mae’r golffiwr yn plygu dros y pyt derfynol, 'does neb yn tynnu anadlu nes i'r bêl ddisgyn - neu ddim - i berfedd gwyn y twll.
Mae deinameg debyg ar waith yng nghyfathrebu’r pregethwr: beth yw'r gwahaniaeth rhwng llais Jeremeiaidd a llais Lucaidd? A ddylai fod gwahaniaeth rhwng llais 'Iesu yng Ngalilea’ a llais ‘Iesu yn Jerwsalem'? Sut mae Salm yn swnio'n wahanol i Ddameg? Sut mae 1 Corinthiaid 13 yn newid, gan ddibynnu os darllenir y bennod mewn angladd neu briodas? Pa argraff a gyfleuir wrth ddarllen emyn yn yr un modd a phe bawn yn darllen ein rhestr siopa wythnosol? Mae sglein ar sylwebaeth ambell un o bobl ‘Camp Lawn’, yn enwedig o ran cymariaethau a delweddau. Dylid, fel ag y medrwn, osod ychydig o sglein ar gyfathrebu’r pregethwr hefyd, gan barchu’r iaith Gymraeg wrth bregethu ynddi.
Yn ail, mae'r sylwebydd radio yn cynnig i’r gwrandäwr le i sefyll. Disgrifir y digwyddiad o bersbectif unigryw. Dyma sydd yn creu a chynnal y ddolen gyswllt rhwng y sylwebydd a’r gwrandäwr. Po fwyaf o fanylion a ddarperir, mwyaf real y profiad a gawn. Ydy'r gêm tennis dan do neu du faes, a'r borfa neu glai? A'i diwrnod poeth ydw i'r golff, neu'n llwyd, glawog? Ydy'r dyrfa i'r gêm pêl-droed yn fwy, neu'n llai na'r disgwyl? Manion, ond o’r manion crëir y llun - y llun sydd yn sicrhau ein bod â rhan yng nghynnwrf y gamp.
Gan symud o'r radio i'r pulpud, oni ddylai'r pregethwr geisio gosod ei wrandawyr yn y darn o’r Beibl sydd iddi neu iddo’n destun sylw? Pa fanylion sydd angen i gynorthwyo ein gwrandawyr i ddeall lle maen nhw? Po fwyaf diogel y tir dan eu traed, mwyaf i gyd y byddant barod i deithio - dychmygu a dyfalu - a pherchenogi’r neges o’r herwydd. Hyd yn oed yn niffeithwch Lefiticus, a jyngl diwinyddiaeth Paul, mae'n bosib sôn am sut y daethom i fan hyn, a beth sydd i weld yma.
Y trydydd peth, yn syml iawn: mae sylwebyddion radio weithiau’n gweithio fel tîm. Darperir y wybodaeth angenrheidiol gan un llais, tra bod y llall yn cynnig lliw'r manion a’r manylion. Weithiau mae'r tîm yn cynnwys rhywun sydd wedi chwarae’r gêm, ac sydd felly’n gwybod beth yw bod ar y maes hwn yn chwarae'r gêm hon. Wrth glywed y ddeialog rhwng y naill a'r llall, mae'r gwrandäwr radio yn gweld mwy o’r gêm na'r sawl sydd yno i’w gweld hi!
Na, nid oes yn rhaid i bregethwr gael ail bregethwr yn ei bulpud! Ond, wrth fynd i'r afael ag ambell destun neu bwnc, fe ellid, (yn wir, fe ddylid) symud o bwyslais i bwyslais, o safbwynt i safbwynt er mwyn i'n gwrandawyr gael gwell syniad o ystod y meddwl a’r dehongli a berthyn i’r darn o’r Beibl dan sylw. Mae hyn yn anoddach nag estyn dim ond un dehongliad - ein dehongliad ninnau, neu ddehongliad yr ysgol ddiwinyddol sydd orau gennym.
Yn olaf, mae dod i arfer â sylwebydd yn gymorth mawr i werthfawrogi'r gamp. Nid wyf ymhlith gwawdwyr selocaf ‘Camp Lawn’, er hynny mae gwell gennyf sylwebaeth ambell sylwebydd na’i gilydd. Pam hynny? Yn bennaf oll oherwydd eu mwynhad amlwg o’r gamp; am eu bod felly’n tanio chwilfrydedd ac yn hoelio sylw. Trwy hynny, cawn ganddynt amgenach sylwebaeth na’r cofnodi glebrog cyffredin. Beth bynnag bo testun ein ‘sylwebaeth’: golff neu "Duw, Cariad yw"; criced neu "Gwyn eu byd y ..." pan mae gwefr ein mwynhad, ein diddordeb a’n hangerdd yn amlwg bydd gennym wrandawyr parod a gwerthfawrogol.
Un nodyn i orffen - mae sylwebi’n grefft. Wrth wrando ambell sylwebydd y prynhawn Sadwrn hwnnw, ‘roedd ôl yr ymchwilio rhag blaen, y paratoi a’r hir ymarfer yn amlwg yn ei sylwebaeth. Buasai gwell siâp ar grefydd yng Nghymru, pe bawn, bregethwyr yn ystyried y gwaith o baratoi pregeth yn grefft; dawn i’w ymarfer a’i pherffeithio, yn hytrach nag yn faich - yn ddiflastod wythnosol.
(OLlE)