Talar ...
Beth yw ‘Talar’?
O gwmpas pob cae aredig ‘roedd talar. Yn bennaf, lle i droi oedd talar. Byddai’r aradrwr yn torri cwys, ac ar ôl dod i’r dalar byddai’n codi’r aradr allan o’r tir, a chafodd gyfle o’r herwydd i fwrw golwg dros y gŵys a dorrwyd. Mae heddiw yn gyfle i dynnu’r aradr o’r tir a throi i weld pa fath gŵys a dorrwyd gennym y 2016.
Ond, mae codi’r aradr o’r tir yn gyfle i rywbeth arall pwysig. Wrth naddu’r gŵys bydd yr aradr yn casglu pob math ac annibendod. Ni all yr un aradr dorri cwys lân, daclus, os oes annibendod arni. Rhaid i’r offer fod yn lân. Gorau po lanaf. Mae heddiw’n gyfle i lanhau ychydig ar aradr ein byw.
Wedi codi’r aradr o’r tir a’i glanhau, siawns na welwn fod niwed wedi digwydd - go brin fod neb wedi mynd drwy’r flwyddyn heb i rywbeth dorri: hyder, iechyd, gobaith, perthynas, anwylyd ... Gan nad oes gennym mo’r ddawn na’r grefft i’w osod yn iawn, rhaid mynd at y gof.
Daethom i dalar: diwedd/dechrau blwyddyn. Mae heddiw’n gyfle i ystyried ein hangen am y Gof.
(OLlE)