Ie, fel lili ymhlith drain
yw f’anwylyd ymysg merched.
(Caniad Solomon 2:2 BCN)
Nid yw merched eraill ond megis drain o gwmpas y lili i’r carwr. Nid ymosodiad sinigaidd ar ferched yw cymhariaeth fel hon ond ymgais i fynegi arbenigrwydd yr un sydd yn gariad iddo.
Onid mewn cymhariaeth y mae mesur gwerth pob gwrthrych? Gellid meddwl am ryw fath o brydferthwch yn perthyn i ddrain ond diflanna o'i gymharu â’r lili. Gall ein daioni edrych yn gymeradwy iawn o'i gymharu â’r hyn a wna ambell un arall. Dim ond pan fesurir ein daioni wrth y safon uchaf bosibl, sef Iesu, y gellir ei farnu’n deg. O wneud hynny, bydd rhaid cydnabod yn ostyngedig mai drain ac ysgall yw’r hyn y tybiasom ei fod yn brydferth.
Benthycwn brofiad Eleazar Roberts (1825-1912) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
O na bawn yn fwy tebyg
i Iesu Grist yn byw -
yn llwyr gysegru ‘mywyd
i wasanaethu Duw …
O na bawn fel yr Iesu
yn llawn awyddfryd pur
i helpu plant gofidiau
ac esmwytháu eu cur;
O na bawn fel yr Iesu
yn maddau pob rhyw fai
‘roedd cariad yn ymarllwys
o’i galon e’n ddi-drai. Amen.
(OLlE)