Edrychwn ymlaen at y Sul: Sul cyntaf 2017. Yn, a thrwy Oedfaon y dydd, cawn gyfle i ddiolch i ddechrau’r flwyddyn newydd yn iawn: mewn mawl ac addoliad. Fe fydd gan hon eto, fel pob blwyddyn arall, ei chymeriad unigryw. Gyda Duw, gyda’n gilydd cydiwn yn hyderus yn llaw’r flwyddyn hon. Deisyfwn faddeuant am wendidau a methiannau'r llynedd; trown bob siom yn ymroddiad ar gyfer eleni.
Bydd ein cyfnod o weddi yn tarddu o brofiad Solomon (1 Brenhinoedd 3:7-9), Abraham Lincoln (1809-65) a Martin Luther (1483-1546).
Testun pregeth fore Sul (10:30; ni chynhelir Ysgol Sul) fydd adnodau agoriadol Salm 23 (1-3): Yr Arglwydd yw fy Mugail: ni bydd EISIAU arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog, efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy ENAID; efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei ENW. Tri gair: ENW, ENAID, EISIAU.
EISIAU - Nid da eisiau gormod tra bod rhai yn gorfod byw gan eisiau digon: Cyfrinach ni bydd eisiau arnaf yw sicrhau na fydd eisiau arnat.
ENAID - Nid creu person newydd heb wendidau yw ystyr Efe a ddychwel fy enaid ond yn hytrach creu o’r gwendidau, berson cyflawn.
ENW - Ein hangen gwaelodol yw am ENW Duw - ei berson. Yn ENW Duw ymgyrchwn ac ymdrechwn dros yr anghenus ymhell ac agos. Nid oes cyflawnder byw a bywyd heb yr ENW. Efe a ddychwel fy enaid.
Onid felly, EISIAU pennaf ENAID yw ENW?
Nos Sul (18:00) Oedfa Gymundeb. Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Cyflwynir dwy homili gan ein Gweinidog. Yn y cyntaf: ‘Blwyddyn Newydd a Hen Ddatganiad’ sonnir am bwysigrwydd datganiad y cytunwyd arno gan gynrychiolwyr eglwysi Annibynnol Lloegr a Chymru mewn cynhadledd a gynhaliwyd ychydig ddyddiau wedi marw Oliver Cromwell, ym Mhlas y Savoy, y Strand, Llundain yn 1658. Cred y Gweinidog fod gan yr Hen Ddatganiad neges a her i ni â ninnau’n troi i wynebu ar Flwyddyn Newydd o wasanaeth a gweinidogaeth.
Hanfod yr ail homili ‘Crist yr Annibendod’ yw darn o gelfyddyd fodern gan Michael Landy (g.1963): The Christmas Tree. Wrth gymuno, mynnwn gofio ac annog gofio fod Crist gyda ni yng nghanol annibendod byd, bywyd a byw.
Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Babimini bore Gwener (6/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.