Y mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn fwy tebyg i wanwyn na Hydref ym mywyd eglwys Minny Street. Mae ‘na fwrlwm yma yn ein plith, a diolch amdano.
Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Glyn a Rhun fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (9/10 am 9:30 yn y Festri). Echel yr hwyl a’r moli bydd Gweddi’r Arglwydd, a gwelir cwblhau ein murlun!
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) Bydd ein Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau ar gymeriadau’r Testament Newydd. Testun ein sylw fydd Phebe.
Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu’r eglwys yn Cenchreae. Derbyniwch hi yn enw’r Arglwydd, mewn modd teilwng o’r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth. Oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol (Rhufeiniaid 16:1,2 BCN).
Dyma’r unig gyfeiriad at Phebe; dwy adnod. Mewn dwy adnod, mae Paul yn awgrymu tri pheth pwysig amdani:
Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer ...
sydd yn gwasanaethu’r eglwys yn Cenchreae ...
... y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.
Liw nos, ein braint fydd cael ymuno yng ngŵyl bregethu Ebeneser (yn Eglwys Canol y Ddinas, Windsor Place; 18:00): pregethir gan y Parchedig Ddr Geraint Tudur (Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street). Boed bendith ar genhadaeth eglwys Ebeneser - nid to a wal sy’n gwneud eglwys, ond pobl yn mentro ar Dduw. Gweddïwn hefyd am wenau Duw ar weinidogaeth y Parchedig Ddr Geraint Tudur fel Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
PIMS nos Lun (10/10; 19:00-20:30 yn y Festri): Llawenydd (Galatiaid 5:22).
BETHANIA nos Fawrth (11/10; 19:30-21:00). Dyma’r ail o’r cyfarfodydd buddiol hyn. Diolch i Margaret am ein croesawu. Y thema y tro hwn yw Cyfeillion Paul. Yn y cyfarfod hwn byddwn yn ymdrin â ‘Paul a’i gyd-Apostolion’.
CWRDD CHWARTER CYFUNDEB DWYRAIN MORGANNWG yng Nghapel Sardis, Pontypridd nos Fercher (12/10; 19:30): cyflwyniad ar Arolwg y Cyfundeb gan y Parchedig Ddr Geraint Tudur a Dr Hefin Jones.
Bore Gwener (23/9; 11:00): ‘LLYNYDDWCH’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Testun ein trafodaeth fore Gwener fydd Showing Signs of Life (t.181-191).