O ti, y decaf o ferched,
os nad wyt yn gwybod,
yna dilyn lwybrau’r defaid
a bugeilia dy fynnod
gerllaw pebyll y bugeiliaid.
(Caniad Solomon 1:8 BCNad)
Dywed y mab wrth ei gariad am iddi fynd gan gadw ar lwybr y preiddiau nes dod i bebyll y bugeiliaid.
Cymhariaeth gyffredin yn yr Hen Destament yw pobl Dduw i braidd: Mae fy mhobl wedi bod fel defaid ar goll. Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd (Jeremeia 50:6a beibl.net).
Gwyddai Iesu am bobl wedi blino a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail (Mathew 9:36 WM).
Boed i ni wrando llais Duw yn arwain ac yn bugeilio ei bobl. Boed i ni gadw ar lwybrau’r preiddiau nes darganfod y bugeiliaid a all bugeilio ein meddyliau, a’n syniadau a’n gweithredoedd.
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Mae dy air yn abl i’m harwain
drwy’r anialwch mawr ymlaen …
(OLlE)