'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog
Heddiw (4/10) yn 1957, lansiwyd y lloeren gyntaf oll - Sputnik-1. 58 centimetr mewn diamedr, ac yn pwyso tua 85 cilogram, gallasai Sputnik cylch-ofod-deithio’r ddaear un waith, mewn awr a hanner. Yr Undeb Sofietaidd enillodd y ‘ras’ i gynllunio, adeiladu a lansio’r lloeren gyntaf oll, ond bu’r ras fechan hon yn gychwyn ar ras amgenach: The Space Race.
Ystyr Sputnik mae’n debyg yw cyd-deithiwr; gwell efallai’r gair: cydymaith. Iesu yw ein Sputnik ninnau. Mae Iesu’n cerdded gyda ni; gytgam, gyfysgwydd ydyw â ni. Ffydd yw gwybod fod Iesu’n cerdded gyda ni. Nid athrawiaeth, athroniaeth, diwinyddiaeth, cred na chredo yw hanfod ein ffydd, ond cyfarfyddiad achubol â’r Crist byw. Pan mae’r ffordd yn droellog, y mae Iesu yn nerth ac yn arweinydd i ni. Pan mae ein calonnau’n drwm, mae Iesu, ein Sputnik, wrth law i’n cynnal a’n calonogi. Pan mae’r daith yn hawdd, â ninnau o’r herwydd anghofio amdano, nid yw ef yn anghofio amdanom ni. Pan grwydrwn oddi ar y ffordd, mae Iesu yn ein dilyn, ac yn ein tywys yn ôl i’r ffordd na fydd yn loes i mi (Salm 139:24 BCN).
Un peth bach arall am y Sputnik - fe lwyddodd i droi o gwmpas y ddaear bron i 1500 o weithiau; ond darfu’r batris ar ôl tua 20 diwrnod. Mae’r Sul-pen-mis yn bwysig i mi - Sul Cymundeb ydyw. Erbyn cyrraedd y bwrdd bob mis, mae fy matris ysbrydol yn reit fflat. Heb oedi wrth fwrdd y bara a’r gwin, buan iawn y darfu’r batris ysbrydol rheini’n llwyr.
Eglwys yn cydgyfarfod - dyna athrylith ein traddodiad a’n harfer. Yn gymysg gawl: yr ifanc, hŷn a hen; y ceidwadol, cymedrol a chwyldroadol; y ‘credu’, ‘eisiau credu’ a’r ‘methu credu’; y twicers, y oncers a’r onceinawhilers - pawb ynghyd yn cydgyfarfod i gyfarfod â’r Cydymaith, ac yn profi’r adnewyddiad a ddaw o Gwrdd mawr y cwrdd bach:
Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn;
myfi yn dlawd, heb feddu dim,
ac yntau’n rhoddi popeth im.
(William Williams, 1717-91)
Ie, Sul Cymundeb oedd y Sul aeth heibio - Sul adnewyddu’r batris - ond cofiwch, mae pob Sul yn Sul Come in-deb. Trowch i mewn atom yn eich eglwys leol. Mae arnom eich angen, a phwy a ŵyr nad oes arnoch chi ein hangen ninnau hefyd. Os nad ydych yn mynd o gwbl ar hyn o bryd, trowch i mewn amser ‘Dolig. Os ydych yn arfer mynd amser ‘Dolig, dewch amser Pasg hefyd, (a’r Sulgwyn!). Os ydych yn mynd bob ‘Dolig a Phasg, ewch unwaith y mis. Os ydych yn mynd unwaith y mis, ewch unwaith y Sul. Da chi, come in. Yma, cawn gymorth-gwmni ein Sputnik; yma cawn her-nerth i’r daith.
(OLlE)