Heno...PIMS. Daethant, rhai yn fwndel mawr o sŵn, chwerthin a thynnu coes; buont yma droeon o’r blaen - y cyfan a phawb yn gyfarwydd. Daeth rhai yn ansicr a swil - Harri, Elin, Amy, Freddie, Ifan a Sam - dyma’r PIMS cyntaf oll iddynt. ‘Roedd dau yn dawel iawn, a hynny’n dra anarferol: Gruff a Heledd; dyma ei PIMS olaf hwythau.
Yr her gyntaf oedd cael y cwmni i eistedd a thawelu; o’r diwedd, o’r hir ddiwedd llwyddo, a’r Gweinidog yn cael cyfle i groesawu pawb, a chyflwyno’r thema: Rhifo, gan ddechrau yn y dechrau: 1.
Torrwyd y cwmni’n dri grŵp, a phob un yn ystyried cwpled o bennill agoriadol emyn David Jones, 1805-68. CFf.76)
Mae Duw yn llond pob lle,
Presennol ymhob man;
y nesaf yw efe
o bawb at enaid gwan;
wrth law o hyd i wrando cri:
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."
Bu’r grŵp cyntaf, o dan arweiniad Hefin yn trafod:
Mae Duw yn llond pob lle,
Presennol ymhob man...
Lleucu fu'n cadw cofnod o sylwadau'r grŵp: 'Mae Duw,' meddai, 'gyda ni trwy'r amser, a thrwy bob peth. 'Rydym yn fwy ymwybodol ohono mewn ambell le, neu ar adegau arbennig, ond Duw llond pob lle ydyw...' ac fe ychwanegodd Sam: 'llond pob milliesecond hefyd!'
Dyfrig fu’n llywio trafodaeth grŵp 2:
...y nesaf yw efe
o bawb at enaid gwan...
Rhys oedd yn 'cadw'r cofnodion': 'Er bod amser wedi mynd heibio ers i David Jones ysgrifennu'r geiriau, mae lot fawr o eneidiau gwan - anghenus - yn y byd o hyd, a Duw yn agos atynt: ffoaduriaid, a'r bobl sydd yn dioddef oherwydd y daeargryn yn Nepal.'
Yn arwain grŵp tri bu Geraint:
...wrth law o hyd i wrando cri:
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."
Gruff E oedd yn siarad dros y grŵp: 'Gyda chymaint o boen yn y byd, mae'n bwysig credu a rhannu gyda phobl fod Duw yn gwrando arnom. Nid Duw pell sydd gennym, ond Duw agos, a da yw dod yn agos ato.'
Wedi dyfal a dygn daeru am gael gwneud fel y gwnaeth y Gweinidog yn yr oedfa deulu bore Sul, darparwyd i’r PIMSwyr newydd y cyfle i lenwi gwydr reit i’r ymyl, ac yna â phlât drosto, ei droi’n sydyn heb golli’r diferyn lleiaf. Cystal cydnabod, bod y ‘troi sydyn’ wedi profi’n hawsach o dipyn na’r ‘peidio colli diferyn’! Ta waeth, manteisiwyd ar y cyfle i gadarnhau’r neges: fod Cariad mawr y Duw sydd yn llond pob lle yn ddigon mawr i gynnwys pawb ym mhob man, a does neb y tu allan i’w ofal mawr.
Gan frysio ‘mlaen - gwyddai’r arweinwyr fod pitsa ar y ffordd - aethom i’r afael â’r gweithgarwch olaf ond un. Papur a phensil i bawb, a gofyn iddynt nodi:
...UN peth sydd yn gwneud nhw’n hapus.
'Cerddoriaeth', meddai Mared.
...UN peth sydd yn gwneud nhw’n drist.
'Gwario arian fy hun', meddai Gruff H.
...UN peth maen nhw’n gallu gwneud yn dda.
'Siarad a thrafod', meddai Heledd.
...UN peth y buasent nhw’n hoffi medru gwneud.
'Darllen meddyliau', meddai Tanwen
...UN peth maen nhw’n hoffi am yr ysgol...
'Amser egwyl', meddai Elin.
...UN peth nad ydynt yn hoffi am yr ysgol...
'Gwaith cartref dros wyliau'r Haf', meddai Rhys.
...UN peth maen nhw’n hoffi am eglwys Minny Street...
'PIMS', meddai Owain J.
...UN peth nad ydynt yn hoffi am eglwys Minny Street.
(Daliodd y Gweinidog ei anadl, ond 'roedd y cyfle yn rhy dda i'w golli): 'Y Gweinidog', meddent bob un, dan chwerthin!
...UN peth y buasent byth yn newid am ei hunain.
'Fy mrawd', meddai Ioan
...UN peth y buasent yn falch o gael newid am ei hunain.
'Poeni gormod am bethau', meddai Shani
Dosbarthwyd Beiblau, gan ofyn iddynt chwilio am adnod olaf Salm 73. Gyda’r PIMSwyr hŷn yn cynorthwyo’r cwmni iau, daethpwyd o hyd i’r adnod, ac wrth ei ddarllen, daeth sylweddoliad sydyn i ambell un, (daeth yn arafach o dipyn i rywrai eraill!) bod cysylltiad pwysig rhwng yr adnod a phennill David Jones:
...da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd Dduw yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau. (Salm 73:8)
Diweddwyd gyda chyfnod o weddi, gan estyn iddynt y cyfle i ymdawelu, gyda'i gilydd, gyda Duw.
Daeth y pitsa - digon i bawb - ac wrth fwyta gwahoddwyd, yn unol â hen arfer, y PIMSwyr oedd yn gadael i gyfarch y gweddill! Bu Heledd a Gruff yn rhan annatod o gymeriad PIMS, mawr ein diolch iddynt, ac fel arwydd o hynny, eto yn unol â hen arfer, cyflwynwyd iddynt gopi, a phawb wedi cael cyfle i 'sgrifennu nodyn bach ynddo, o 'Oh, the places you'll go!' gan Dr. Seuss (1904-91). Boed bendith Duw ar y PIMSwyr - maent, bob un, yn gyfryngau bendith i ni fel eglwys.