Trwy gyfrwng Cynghanedd i Blant (Barddas; 2010) gan Mererid Hopwood, dwi’n dysgu ychydig am y gynghanedd. Dyna oedd un o’m haddunedau blwyddyn newydd - meistroli’r gynghanedd eleni, ac ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol 2017! Cawn weld...
Mae pedwar prif fath yn ôl pob tebyg. Dwi’n synhwyro fod ambell un ohonoch yn crychu eich talcen diwylliannol. Onid oes pawb yn gwybod hynny?! Yn rhyfedd iawn iawn, nid oedd y gynghanedd ar y cwricwlwm yn yr ysgol honno llef cefais y rhan helaethaf o’m haddysg uwchradd: Beverly School for Boys! the Royal Borough of Kingston upon Thames.
Felly, dwi’n derbyn Mererid ar ei gair; pedwar prif fath o gynghanedd sydd - y gynghanedd draws:
Newid mae gwybodaeth ... (Elfed, 1860-1953; CFf.:381)
Ein tŵr a’n tarian ar ein taith ... (J.T.Job, 1867-1938; CFf.:815)
Y gynghanedd groes:
O gariad rhad, O gariad drud ... (William Williams, 1717-91; 314)
Mawr fel Duw, a mawr fel dyn ... (Titus Lewis, 1773-1811; 323)
Y gynghanedd lusg:
Ac ar ei ben bo’r goron! (Dyfed, 1850-1923; 353)
Y gynghanedd sain:
Er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith ... (Edward Jones, 1761-1836; 207)
Deued, deued golau dydd ... (William Williams, 1717-91; 698)
Fel sydd bellach yn amlwg, dwi ‘di bod yn pori yng Nghaneuon Ffydd. Ychydig iawn o gynghanedd a ddefnyddir yn ein hemynau! Mae hi’n dod i’r amlwg, ydi, ond dim ond nawr ac yn y man. Pan edrychwn ar enwau’r emynwyr: Eben Fardd (1802-1863); Moelwyn (1866-1944); Nantlais (1874-1959); Elfed (1860-1953); John Roberts (1910-84) a D.Hughes Jones sylweddolwn mai beirdd praff yw'r rhain, ac felly nid mater o fethu cynganeddu sydd wrth wraidd y peth, ond gwrthod. Efallai - dwi’n dyfalu - bod y gynghanedd yn rhy fussy i emyn; wedi’r cyfan, mynegi gwirionedd yn uniongyrchol yw nodwedd amlycaf yr emyn.
Ta waeth am hynny; pan ddefnyddir y gynghanedd o gwbl, y gynghanedd sain a ddefnyddir yn bennaf. Awgrymodd Gerallt Lloyd Owen (1944-2014) fod y gynghanedd sain yn ein gorfodi i arafu. Efallai fod hynny’n egluro defnydd yr emynwyr ohoni. Mae’r gynghanedd sain yn ein dal yn ôl, yn ein cadw rhag rhuthro heibio i ystyr yr hyn a fynegir. Mae rhywbeth yn urddasol am y gynghanedd Sain.
At hyn dwi’n dod: ein gwaith yw ... Ei garu a’i barchu yn y byd (Ann Griffiths 1776-1805). I gyflawni hyn o weinidogaeth, mae’n rhaid arafu - ymdawelu - ac ystyried. Ar ddechrau pob wythnos, mae mynychu oedfa’n llesol. Mae’r oedfa honno’n ein hatal rhag baglu ‘mlaen o’r naill wythnos i’r llall. Pob Sul-pen-mis fe ddown at fwrdd y Cymundeb. Mae’r bwrdd yn ein harafu. Mae’r bara a’r gwin yn ein hatal rhag rhuthro o’r naill fis i’r llall heb ystyried hyd a lled, uchder a dyfnder cariad ein Duw. Yr arafu hwn sydd yn sicrhau Er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith ... (Edward Jones, 1761-1836)
Manteisiwn felly ar bob oedfa a chymundeb i arafu; ac o arafu, ystyried:
Gofala Duw a Thad pob dawn
yn dyner iawn amdanom...
(Benjamin Francis, 1734-99)
Addolwn Ef, ein dyled yw
‘rym arno’n byw bob awr.
(Gwilym Hiraethog, 1802-83)
(OLlE)