Fy Hen Lyfr Cownt (Gwasg Aberystwyth; 1961)
Rhiannon Davies Jones (1921-2014)
Sut mae dod i adnabod Ann Griffiths? 'Sgrifennwyd llawer amdani a bu cryn ddyfalu yn ei chylch, yn wyneb moelni’r ychydig ffeithiau a wyddom am ei bywyd byr. Fel y gellid disgwyl, bu llawer o ramantu hefyd wrth roi’r ffrwyn i’r dychymyg a darlunio tröedigaeth sydyn a chyffrous geneth hollol benchwiban a chwbl gnawdol ei diddordebau. Canwyd llawer ar ei chlodydd fel emynyddes, ac aeth rhai mor bell â’i chanoneiddio’n ‘Santes Ann’. Bu eraill wrthi’n ddiwyd yn pwyso a mesur ei hemynau, yn lled awgrymu bod gormod o ôl twtio diwinyddol John Hughes Pontrobert arnynt, ac yn wir yn amau a oedd cof morwyn fel Rwth Evans gystal ag y tybid! Traethwyd yn huawdl ar ei safbwynt diwinyddol a’r cyfuniad rhyfedd a geir ynddynt o Gyfriniaeth ar y naill law a Chalfiniaeth ar y llall. Rhwng y dyfalu, y dramaeiddio, y canmol a’r gogoneddu, a’r astudio beirniadol, mae perygl i Ann Griffiths ei hun fynd ar goll.
Rhoddodd Rhiannon Davies Jones gyfle inni ddod yn agos at ‘Nansi Dolwar Fach’. Syniad ysbrydoledig oedd gadael i’r emynyddes ei hun ddweud ei stori ar ffurf dyddiadur. Hyd yn oed â bwrw bod digon o ddeunydd wrth law i ‘sgrifennu cofiant llawn, nid yn nigwyddiadau allanol ei bywyd y gorwedd ei chyfrinach, ond yn ei bywyd mewnol, ei phererindod ysbrydol. Ac nid wrth siarad amdani ‘roedd dod o hyd i’r gyfrinach honno ond drwy adael i Ann Griffiths siarad drosti ei hun.
‘Roedd eisiau mwy na dawn llenor fel y cyfryw i gyflawni hyn o orchwyl. Gelwid am ddawn i ‘synhwyro’ cyfnod yn ogystal â gwybod y manylion amdano; am ddychymyg ymgysygredig dan ddisgyblaeth lwyr, ac am gydymdeimlad yn ystyr llythrennol y gair, y math o gydymdeimlad sy’n gallu deall ‘cudd feddyliau’r galon, a chrwydradau mynych hon’. Ni ellid teyrngarwch uwch i lwyddiant yr awdur, na dweud iddi lwyddo i fynd o’r golwg wrth gyflwyno Ann Griffiths inni. Yn bennaf efallai am fod rhyw naturioldeb hyfryd yn nodweddu’r dyddiadur ar ei hyd, b’un ai’r siarad am waith bob dydd y fferm y mae neu am bwnc diwinyddol. Ac wrth edrych ar bethau trwy lygaid yr emynyddes ei hun, camau ei thröedigaeth sydd yn ein hargyhoeddi nid ei sydynrwydd dramatig. Dau ddarlun i’w cofio’n hir yw hanes oedfa’r Annibynwyr ym Mhendref Llanfyllin yn 1797, ac oedfa’r ‘Methodistiaid’ ym Mhenllys yn 1798.
Yn ei ddrama fer, fuddugol, Y Pren Planedig, mae Gwilym Hughes yn gosod y frawddeg hon ar wefus gwas Dolwar Fach wrth ddisgrifio ei feistres ar ôl ei thröedigaeth: ‘Dydi hi ddim mor llawen ag oedd hi’. I raddau'r un argraff a gawn o ddarllen Fy Hen Lyfr Cownt. Pallodd llawer iawn o’r hen nwyf a’r asbri cynnar, y diddordeb effro yn y byd tu allan yn ymhyfrydu mewn byw a chwmnïa a disgwyliech mewn merch ifanc fel hon, tröedigaeth neu beidio! Byddai’r digydymdeimlad yn barod i ddweud bod rhywbeth afiach, os nad niwrotig, yn y pruddglwyf mynych, y dyheu am farw, yr awydd annaturiol am ‘gusanu’r Mab i dragwyddoldeb’, a hithau ar fin neu newydd briodi. Mae’n ddigon tebyg mai adlewyrchu nodwedd arallfydol y Diwygiad Methodistaidd ar y pryd yr oedd yn hyn o beth. Ofer dyfalu efallai, ond a fuasai Ann Griffiths yn llai arallfydol pe digwyddasai ei thröedigaeth heddiw? Yn lle ‘dyheu am lonyddwch’ (Ebrill 1805) a fuasai awydd am genhadu a gweinidogaeth yn ei chorddi?
Os ydych am fentro cam at ddeall meddwl ‘y ferch o Ddolwar fach’, peidiwch, da chi ag anwybyddu'r darlun hynod fyw a chredadwy ohoni yn Fy Hen Lyfr Cownt.
(OLlE)