Ni ddylid caniatáu i’r ddadl fawr am ddyfodol Prydain yn Ewrop amharu ar etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl Llywydd Undeb yr Annibynwyr, y Parchg Ddr R.Alun Evans. Yn ei Neges Gŵyl Ddewi i’r wasg a’r cyfryngau, mae Dr Evans yn galw ar bobl i ystyried dyfodol materion sydd wedi’u datganoli, fel y gwasanaethau iechyd ag addysg, wrth fwrw’u pleidlais ym Mis Mai.
"Wrth i ni ddathlu Gŵyl Ddewi a pharhad ein cenedl, daw’r amser yn fuan i ni feddwl am ddyfodol Cymru. Bydd yr etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai yn gyfle i ni ystyried yr hyn mae’r pleidiau’n ei gynnig mewn dau faes allweddol: iechyd ac addysg.
"Dyma wasanaethau sydd wedi tarddu o sefydliadau Cristnogol. Am fil o flynyddoedd, o oes Dewi ymlaen, y mynachod fu’n gyfrifol am ddarparu gofal meddygol i bobl. Mae’r gair ‘hosbis’ ac ‘ysbyty’ yn dyddio o’r cyfnod cynnar hynny. Roedd y mynachlogydd hefyd yn ganolfannau dysg a chelfyddyd.
"Yn y 18fed ganrif, dysgodd canran uchel o’r Cymry sut i ddarllen y Beibl, diolch i syniad athrylithgar Griffith Jones o sefydlu ysgolion cylchynol. Ac o ddysgu darllen y Beibl, roedd galw mawr gan y werin bobl am lyfrau eraill a chylchgronau. Fyth ers hynny, mae’r Cymry wedi rhoi pwyslais arbennig ar addysg.
"Yn anffodus, fe fydd y ddadl fawr am ddyfodol y DU yn Ewrop yn siŵr o daflu cysgod trwm dros gyfnod ymgyrchu etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Ond dadl ar gyfer etholiad arall yw honno. O ran etholiad y Cynulliad, rwy’n annog pobl Cymru i ddwys ystyried pa un o’r pleidiau sy’n cynnig y ddêl orau i iechyd ac addysg. Dyma faterion sy’n cael effaith anferth ar ein bywydau bob dydd. Ar y rhain y dylem ganolbwyntio wrth benderfynu sut i fwrw ein pleidlais ar Fai 5ed," meddai Dr Evans.