Mae Mawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi, wedi ei neilltuo gennym fel Annibynwyr i fod yn ddiwrnod i weddio dros ein cenedl a’n pobl.
Mosaig o Dewi Sant gan Ifor Davies. Llun: Lewis Whyld/PA
Gŵyl Ddewi
(gan Waldo Williams, 1904-1971; o Dail Pren. Argraffiad Newydd; 1991)
Ar raff dros war a than geseiliau’r sant
Tynnai’r aradr bren, a rhwygai’r tir.
Troednoeth y cerddai’r clapiau wedyn, a chant
Y gŵys o dan ei wadn yn wynfyd hir.
Ych hywaith Duw, ei nerth; a’i santaidd nwyd -
Llafuriai garegog âr dan y graig lwyd,
Diwylliai’r llethrau a diwreiddio’r drain,
Heuodd yr had a ddaeth ar ôl ei farw
Yn fara’r Crist i filoedd bordydd braint.
Addurn ysgrythur Crist oedd ei dalar arw
Ac afrwydd sicrwydd cychwyniadau’r saint.
Na heuem heddiw ar ôl ein herydr rhugl
Rawn ei ddeheulaw ef a’i huawdl sigl.
Dewi, ych Duw, yn tynnu’r aradr i dorri tir ein tir: Diwylliai’r llethrau a diwreiddio’r drain, ac yn hau had yr Efengyl; eginodd a thyfodd, ac ohono crëwyd fara’r Crist: bara’r bywyd i’r cenedlaethau a ddaeth ar ei ôl. Yn y cwpled clo, mae Waldo’n awgrymu nad ydym, er yr holl gyfryngau cyfathrebu a gweithredu sydd gennym - sylwch ar aradr bren Dewi, a’n herydr rhugl ninnau - yn llwyddo i hau fel yr heuodd yntau.
Penodwyd Mawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi, gan Undeb Annibynwyr Cymru, fel diwrnod i weddïo dros Gymru a’i phobl. Gweddïwn felly am y nerth i ymaflyd o’r newydd yng nghyrn erydr ffydd, gobaith a chariad:
Na heuem heddiw ar ôl ein herydr rhugl
Rawn ei ddeheulaw ef a’i huawdl sigl.
Dewi Sant; Cysegrfa Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi. Llun: 3Di Associates Photography
Rhannodd y dymp a’r drôm bentir y sant
Ac uffern fodlon fry yn canu ei chrwth,
A’i dawnswyr dof odnai yn wado bant
Wrth resi dannedd dur y dinistr glwth.
Tragwyddol bebyll Mamon - yma y maent
Yn derbyn fy mhobl o’u penbleth i mewn i’w plan,
A’u drysu fel llysywod y plethwaith paent
A rhwydd orffwylltra llawer yn yr un man.
Nerth Dewi, pe deuai yn dymestl dros y grug
Ni safai pebyll Mamon ar y maes;
Chwyrlïai eu holl ragluniaeth ffun a ffug,
A chyfiawnderau’r gwaed yn rhubanau llaes,
A hir ddigywilydd-dra a bryntni’r bunt
Yn dawnsio dawns dail crin ar yr uchel wynt.
Sŵn awyrennau rhyfel uwchben: uffern fodlon fry yn canu ei chrwth; tir ffrwythlon yn ddiffaith: ...y dymp a’r drôm bentir y sant. Mamon yn dduw: Yn derbyn fy mhobl o’u penbleth i mewn i’w plan, a’r Cymry - a fodd neu anfodd - iddo’n ildio.
Penodwyd Mawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi, fel diwrnod i weddïo dros Gymru a’i phobl. Gweddïwn felly am y nerth a fu’n nerth i Dewi:
Nerth Dewi, pe deuai yn dymestl dros y grug
Ni safai pebyll Mamon ar y maes.
Lle mae’r meddwl heb ofn, a’r wyneb heb warth...
Lle mae gwybodaeth yn rhydd...
Lle ni rennir y byd yn ddarnau gan gulni a’i furiau...
Lle llifa ein geiriau allan o ddyfnderoedd gwirionedd...
Lle mae ymdrech ddiflino â braich estynedig yn ceisio perffeithrwydd...
Lle ni chyll afon loyw’r deall ei ffordd yn niffeithwch defodau difywyd...
Lle tywysir y meddwl ymlaen gyda Thi i gylchoedd ehangach o wybodaeth a gwasanaeth...
I’r gwynfyd rydd honno, fy Nhad, o arwain fy Ngwlad. Amen
(Yr Allor. Gwasg y Bala; 1929)
(OLlE)