Forelsket
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Norwyeg: Forelsket. Yn fras, Forelsket yw’r ymdeimlad annisgrifiadwy hwnnw a ddaw o wybod eich bod ar fin syrthio mewn cariad.
Mae Mrs Williams drws-nesa’-ond-dau wrth ei bodd yn darllen llyfrau Mills and Boon. Onid, yw’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi stori garu dda? Onid stori garu yw hanfod holl ymwneud Duw â phobl?
Mae cariad Duw yn newid pobl. Os mai nyni yw bys y cwmpawd, cariad yw’r gogledd magnetig. Nid profiad dymunol mo’r newid hwn, ond mae’r fendith a gawn o’r herwydd yn ganwaith mwy, yn filwaith gwaith amgenach na gorau’r byd a’i bethau: y newid hwn sydd ddeniadol i eraill. Mae gweld ein Forelsket yn peri chwilfrydedd am beth fu achos y newid hwn ynom.
Ym Mhrifysgol Bangor mi ddois ar draws Siôn. Trwy gydol y blynyddoedd hapus rheini - fel y gweddill ohonom - bu Siôn yn ddedwydd o anniben ac yn fodlon o flêr. Wedi graddio bu Siôn, tra bod y gweddill ohonom yn ymdacluso, bu Siôn yn ddigyfnewid yn ei annibendod beunyddiol. Tair blynedd yn ddiweddarach, aeth Siôn i Ganada i weithio am gyfnod. Daeth yn ôl i Gymru wedi blwyddyn neu ddwy, a galw heibio, a minnau’n byw a gweinidogaethu ar y pryd yn Rhos a Wrecsam. Dyna chi wahaniaeth! Dillad smart, glân. Gwallt byr a thaclus. Beth oedd wedi peri'r fath newid ynddo? Nid beth yn gymaint, ond pwy: Emily … Er nad oedd merched yn ddiarth i Siôn, ‘roedd Emily yn wahanol. ‘Roedd Emily yn ei garu. ‘Roedd Siôn yn gwybod bod Emily yn ei garu. Dyna waelod y newid yn Siôn.
Wrth sylweddoli fod rhywun yn ein caru - ac wrth dderbyn y cariad hwnnw - mae newid yn anorfod, a’r newid yn amlwg. Mae hyn yn wir hefyd am ein perthynas â Duw. O ildio i’r Cariad hwn, bydd y newid ynom yn amlwg i bawb cael gweld - mae cariad Duw yn gadael ei farc arnom: Forelsket. Yn anad dim byd arall rhannu ein Forelsket - rhannu gwefr ein hymateb i gariad gwefreiddiol Duw yw gorau arf genhadol, a phennaf genhadaeth y Cristion.
Arglwydd, cyfoethoger fy mhrofiad ysbrydol, a thrwy hynny defnyddia fi i dywys eraill i gyffelyb brofiad. Amen.
(OLlE)