Salm 41
Gŵr amlwg ymhlith ei bobl yw awdur y Salm hon, ac yn ŵr o awdurdod. Y mae’n wrthrych atgasedd ei elynion, ac amgylchynir ef gan fradwyr, y pennaf ohonynt yn un o’i gyfeillion mynwesol. Y mae’r Salmydd dan gystudd trwm, mor drwm nes credu o’i elynion ei bod ar ben arno a gorfoleddant.
‘Roedd hyn i gyd yn wir am y brenin Dafydd pan wrthryfelodd Absalom i’w erbyn, ac y cynorthwywyd y gwrthryfelwyr gan Ahitoffel a fu’n bennaf cynghorwr i Dafydd (2 Samuel 15:31).
Ond, ‘roedd adwaith Dafydd i wrthryfel Absalom yn dra gwahanol i adwaith y Salmydd hwn i’w elynion. Galw a wna’r Salmydd am ddial ar ei elynion, a chael cyfle i dalu sawl pwyth yn ôl iddynt. Mor wahanol oedd adwaith Dafydd i wrthryfel Absalom! O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab! (2 Samuel 18:33 BCN).
‘Roedd Dafydd beth wmbredd yn nes i ysbryd yr Efengyl nag oedd y Salmydd a weddïai: O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu’n ôl iddynt (Salm 41:10 BCN).
Rhag pob ysbryd cas O! Dduw, gwared ni, a rho inni galonnau trugarog. Amen.
(OLlE)