...nid ydych wedi tramwyo’r ffordd hon o'r blaen. (Josua 3: 3b)
Hawlia cychwyn ar daith i rywle sy’n ddieithr rhagbaratoi gofalus. Ym Mhennod 3 o Lyfr Josua, mae pobl Dduw ar lan yr Iorddonen a chawn fanylion y paratoi i groesi’r afon i Ganaan. Cyhoedda Josua fod llwyddiant yr antur yn dibynnu ar barodrwydd y bobl i wneud fel y gofynnwyd iddynt gan Dduw.
Newydd-deb y ffordd. ‘roedd y bobl hyn wedi hen arfer â theithio: Cofiwch yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd eich Duw chwi yn ystod y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch (Deuteronomium 8:2). Pam, o gofio hyn, fyddai ofn afon ar y bobl hyn? Ar y daith hirfaith i Ganaan cawsant lu o waredigaethau, trwch o gymorth a phentwr o fendith:
Wel, f’enaid dos ymlaen, ‘dyw’r bryniau sydd gerllaw
un gronyn uwch, un gronyn mwy, na hwy a gwrddaist draw:
(William Williams, 1717-91; C.Ff.750)
Tebyg i rywrai gwyno am y gwastraffu amser gyda’r holl baratoi, ond gwyddai Josua fyddai anawsterau ar y ffordd na fu iddynt eu cyfarfod yn yr anialwch. Nid oedd profiadau’r gorffennol yn ddigon ar gyfer y dieithrwch newydd hwn oedd o’u blaen. Mae hyn yn wir amdanom ninnau hefyd. Er wynebu ar flwyddyn newydd o wasanaeth o'r blaen, ni fu i ni erioed wynebu ar y flwyddyn newydd hon o wasanaeth. Gall llawer o bethau ddigwydd eleni a ymdebyga i’r hyn ddigwyddodd llynedd, ond daw llawer o brofiadau a gofynion cwbl wahanol hefyd. Gallwn baratoi trwy weddi, a’r weddi honno yn ein cynnal ar hyd y ffordd.
Pwysigrwydd yr Arch. Pan welwch yr offeiriaid...yn codi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, cychwynnwch o’ch lle ac ewch ar ei hôl, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd... (Josua 3:2b) Yr angen pennaf ar antur mor fawr oedd arweiniad; heb hynny, methiant fyddai’r cwbl. Mae’r Arch yn arwydd o bresenoldeb Duw gyda’i bobl. Ni fynnai Josua fentro’r un cam heblaw bod Duw yn mynd o’u blaen. Amser dedwydd oedd hwnnw pan ‘roedd y Genedl. Ar orchymyn yr Arglwydd...yn gwersyllu...yn cychwyn ar eu taith...yn cadw dymuniad yr Arglwydd... (Numeri 9:23). O fod wedi cadw at hyn byddid wedi cyrraedd Canaan tipyn ynghynt! Cofiai Josua mor gostus anufudd-dod a pheidio sicrhau i Dduw ei le priodol. Eleni, yn ein gweinidogaeth, ein gwasanaeth a’n cymdeithas, rhaid i ninnau ddilyn Arch y Cyfamod. Ofer pob cymdeithas, gwasanaeth a gweinidogaeth heb geisio’n gyson, a chyson ildio i Ewyllys Duw. Beth bynnag ddaw a pha beth bynnag na ddaw, yr unig wir lwyddiant i ymgyrraedd ato yw bod yn eglwys, yn a thrwy, ac er waetha bob peth sydd yn cadw dymuniad yr Arglwydd.
Dyletswydd pobl. ...dywedodd Josua wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch... (Josua 3:4) Y nod yw cadw dymuniad yr Arglwydd. Duw sy’n ein harwain, ein cynnal a’n bendithio, ond ni all Duw wneud hyn os bydd i ni ei anwybyddu. I dderbyn o’i fendith, rhaid bod yn barod i gael ein bendithio; i’n harwain, rhaid bodloni derbyn arweiniad; ac i’n cynnal gan Dduw, rhaid dewis pwyso arno. Mae’r alwad i ymgysegru i’r holl bobl yn ogystal ag at bob unigolyn. Gwaith i bawb yw gwaith Eglwys Minny Street; pobl mewn cymdeithas yn cydweithio, cyd-ddyheu, cyd-dynnu, cyd-ddibynnu, cydaddoli a chyd-weddïo. O ddewis cadw gyda’n gilydd gyda Duw diwellir pob angen, dilëir pob lletchwithdod, a datrysir pob problem.
Ffyddlondeb Duw. ...fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses...a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo’r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr, cronnodd y dyfroedd...a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho. (Josua 3: 14-16) Er nad mor ddramatig â chroesi’r Môr Coch (Exodus 14: 22-23), amlwg y neges: Duw sy’n arwain ei bobl. Hebddo, ni fyddai cyfle na modd i groesi. Yr ysbrydoliaeth fwyaf y gellid fod wedi rhoi i’r bobl hyn oedd eu hatgoffa o’r gynhaliaeth a fu. Hynny, yn sylweddoliad bod y gynhaliaeth honno’n gyson, yn llifo o heddiw, trwy heddiw i bob yfory:
Yr Arglwydd sydd yr un er maint derfysga’r byd:
er anwadalwch dyn yr un yw ef o hyd;
y graig ni syfl ym merw’r lli; “Nesáu at Dduw sydd dda i (ni).”
(David Jones, 1805-68; C.Ff.76)
...nid ydych wedi tramwyo’r ffordd hon o’r blaen. ‘Rydym ninnau, heddiw, yr un fath â Josua a’i bobl, yn wynebu’r anhysbys mewn gwasanaeth a gweinidogaeth. Awn trosodd, gan groesi gyda’n gilydd a gyda Duw yng Nghrist. Heb hynny, llwyddiant amheus fydd ein llwyddiant mwyaf.
(OLlE)