Mawr ein diolch i’r Parchedigion Dafydd Andrew Jones, Towyn Jones, Hywel Wyn Richards, Wyn Vittle ac Aled Huw Thomas am bregethu meddylgar a phregethau gwerthfawr yn ystod mis Awst. Hyfrydwch, o Sul i Sul, oedd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas. Da yw cydaddoli a chyd-dystio. Boed bendith ar weinidogaeth eglwysi Caerdydd a Chymru gyfan. Trwom, rhyngom, amdanom boed cariad Duw. Lluniau bach ydym yn yr un llun.
‘Roedd yn dda gennym gael croesawi ein Gweinidog yn ôl i’n plith heddiw. Gweddïwn am wenau Duw ar y cyfnod newydd hwn o wasanaeth; a pha ffordd well i nodi dechrau cyfnod newydd na thrwy feithrin ambell arfer newydd wrth agor a chloi oedfaon y Sul. Bydd ein hoedfaon bellach yn dechrau yn sŵn Salm (95:1-5 y bore ‘ma), a hen hen weddi a berthyn i’r traddodiad Uniongred Dwyreiniol: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. I gloi bob oedfa, cyn y Fendith Apostolaidd, byddwn, o’r ieuangaf i’r hynaf yn deisyf bendith i’n gilydd gyda’r geiriau cyfarwydd rheini o Lyfr Numeri (6:24-26): Bydded i’r ARGLWYDD dy fendithio a’th gadw; bydded i’r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt; bydded i’r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.
Cawsom wybod yn yr Oedfa Foreol mai dysgu rhifo yw’r nod y tymor hwn i’r Ysgol Sul a PIMS; gobeithir cyrraedd 12 erbyn mis Awst 2016! Â phawb wedi drysu braidd, aeth y Gweinidog yn ei flaen i sôn am y rhif 1, ac mai UN Duw sydd. ‘Roedd pawb bellach yn dechrau deall! Pam mai Un Duw sydd? Ble rhowch chi dduw arall, gan fod yr Un sydd gennym ymhob man?!
Mae Duw yn llond pob lle,
Presennol ymhob man...
(David Jones, 1805-68 CFf.76)
Beth i ni’n weld bob dydd; mae brenin ond yn gweld weithiau, ond welodd Duw erioed, ac ni wel byth o gwbl? Dyna oedd yr her gyntaf a osodwyd i ni gan y Gweinidog, a sawl un o’r plant yn ysu am gael ateb. Un Tebyg! Ni’n gweld rhai tebyg i ni bob dydd; mae’r brenin yn gweld ei debyg - sef brenin arall - weithiau, ond Duw...nid yw Duw yn gweld ei debyg byth. Unigryw ydyw. Un. Un Duw sydd, ac y mae’r un sydd gennym yn llanw pob lle!
Ymlaen yn ddiymdroi i'r ail her: Ydy Duw yn Llundain? Funafuti? Yaoundé? Mountain Ash? Arundel? Pont-y-clun? Dunwich? Hungerford? Dyna chi restr cwbl ddigyswllt o enwau, ac yna’n sydyn, y plant - sydd wedi hen arfer gyda theithi meddwl Owain Llyr - yn dechrau gweld; ‘roedd dwylo i fyny, a sawl un yn awchu cael cynnig ateb. Ydy! Mae Duw - yr Un - yn Llundain? Funafuti? Yaoundé? Mountain Ash? Arundel? Pont-y-clun? Dunwich? Hungerford? Erbyn cyrraedd Mountain Ash ‘roedd yr oedolion wedi dechrau dal i fyny gyda’r plant!
Wedi cyfnod o weddi, pan gofiwyd yn benodol am bobl ar ffo rhag rhyfel a gorthrwm; aeth y Gweinidog ati i lenwi gwydr mawr â dŵr, ‘roedd y gwydr yn llawn i’r ymyl. Mae cariad Duw yn cynnwys pawb, meddai. Un Duw sydd, lle bynnag i ni’n mynd; beth bynnag i ni’n gwneud; beth bynnag ydym, beth bynnag i ni wedi bod, beth bynnag i ni’n eisiau bod: mae cariad mawr yr UN Duw yn ddigon mawr i ddal y cyfan i gyd.
Yn sydyn, gosododd blât ar ben y gwydr, a’i droi - heb golli diferyn! Ie, meddai, un Duw sydd. Does unlle y medrwn fynd; does undim y medrwn ei wneud; does unpeth y medrwn fod sydd yn ein gosod ni y tu allan i afael cariad mawr yr UN Duw Mawr.
‘Roedd un peth ar ôl i ddweud: God is nowhere. Mae Duw yn absennol. Soniodd y gweinidog bod modd, gydag un symudiad syml, newid ystyr y cymal hwn yn llwyr. Nid Duw absennol, ond Duw presennol: God is now...here. Dyma sylfaen a chyfeiriad ein cenhadaeth fel eglwysi Cristnogol: cael pobl i weld a phrofi fod Duw gyda hwy, yn gysur a chymorth i fyw - God is now here.
Diolch am fendith cwmni’n gilydd yn Nuw. Braf oedd cael y gerddorfa ynghyd i arwain y gân yn ystod yr oedfa.
Wedi bwrlwm yr Oedfa Deulu, daeth cyfle liw nos am oedfa dawel. Yr wythfed Salm (ad.3-8) oedd ein man cychwyn. Arweiniwyd ni gan y Gweinidog i’r drydedd bennod o Lyfr Josua. Hanes pobl yn anturio cychwyn ar daith newydd sydd yn y bennod hon. Mae pobl Dduw wedi cyrraedd yr Iorddonen ac yn paratoi i groesi i Ganaan. Pwysleisir pedwar o bethau yn y bennod, a phob un yn gymorth mawr i ni ar ddechrau tymor newydd o wasanaeth:
1. Newydd-deb y ffordd.
2. Pwysigrwydd yr Arch.
3. Dyletswydd y bobl.
4. Ffyddlondeb Duw.
Wedi'r bregeth, daethom ynghyd wrth fwrdd y Cymun. Wedi cofio am y galarus, a’r anghenus; diolch am lwyddiant, a dymuno bendith i’r bobl ifanc ar ddechrau tymor newydd addysgol, buom yn ystyried arwyddocâd y cymal syml: Gwnewch hyn…(Luc 22:19b). Mae’n anodd peidio gwneud hyn, meddai, gan mai Iesu sydd yn ein hannog i wneud. Pwysig iawn felly y gwneud hyn: mae’r hwn a gofiodd amdanom yn dymuno i’r rhai a gofiwyd ganddo ei gofio yntau. Gwnewch hyn...Hawdd yw hyn - peth hawdd i gofio am beth anodd: aberth Crist. Peth bychan yw hyn - peth bychan i gofio am beth mawr: cariad Crist. Peth mawr yw hyn - wrth gofio’r Iesu a fu, cawn gwrdd â’r Crist sydd.
Braf oedd cael cymdeithasu â'n gilydd wedi'r ddwy oedfa, a'r festri'n fwrlwm o sgwrs a chyfeillgarwch. 'Roedd pawb yn gytûn: cafwyd Sul, hyfryd a bendithlawn. Awn rhagom i dymor newydd o wasanaeth, gan weddïo bendith Duw ar ein hymdrechion i fod yn eglwys sydd yn llawn sylweddoli gwerth dysg a phregethu, yn eglwys â gwres cyfeillgarwch o’i mewn; yn eglwys weddigar, gynnes, agored a bywiog.
Arglwydd Iesu llanw d’Eglwys,
â’th Lân Ysbryd Di dy Hun,
Fel y gwasanaetho’r nefoedd
Trwy roi’i llaw i achub dyn... Amen
(W. Pari Huws, 1853-1936; CFf 839)