‘Noli Me Tangere’, Graham Sutherland (1903-80)
'Noli me Tangere' (1960), Graham Sutherland (1903-80); Cadeirlan Chichester
Na chyffwrdd â mi (Ioan 20: 17 WM). Dyma ddehongliad Graham Sutherland. Sylwch ar y blociau caled o liw: ocr a glaswyrdd. Onglog hefyd y grisiau; hyn oll mewn gwrthgyferbyniad â meddalwch crom y ddau gymeriad: Iesu a Mair. Defnyddir y gwrthgyferbyniad hwn gan Sutherland i amlygu natur dyner a chariadlawn y cyfarfyddiad hwn. Mae Mair i weld wedi ei dirdroi gan erchylltra Calfaria - mae rhywbeth annaturiol am ystum ei chorff:
Y Fadlen ddewr, bu sŵn y dyrfa’n ei chlyw
am ddyddiau, a chableddau’r milwyr
fel libreto i fiwsig anwaraidd yr hoelion
yn rhygnu’r ymennydd.
Druan ohoni, i ba le y ffôi rhag y fath uffern?
Mair, (Dei Gratia; Barddas, 1984) gan Rhydwen Williams (1916-97)
Cyfleuir gan Sutherland agosrwydd a phellter, aduno a gwahanu. Gwelir yng nghyfuniad wyneb a llaw Mair mynegiant o lawenydd y sylweddoliad fod Iesu’n fyw: Meddai Iesu wrthi, "Mair." Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, "Rabbwni". (Ioan 20:15,16 BCN), ond hefyd gwewyr yr ymwahanu: "Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad ..." (Ioan 20:17 BCN).
Mae Iesu’n plygu dros ganllaw'r grisiau, a’i law dde yn gwahardd Mair rhag cyffwrdd ag ef, ond mae’r ystum yn llwyddo hefyd i gyfleu cysur a bendith. Mae llaw chwith yr Iesu yn dangos y rheidrwydd sydd arno ... esgyn at y Tad ...
Ar Ddydd Iau Dyrchafael ffarweliwn ag Iesu Bethlehem, Calfaria ac Emaus, ond gyda’r Pentecost, daw Iesu drachefn i fod yn llond pob lle, presennol ym mhob man (David Jones, 1805-68; Caneuon Ffydd 76)! Crist ynom! Gyda’r Pentecost bydd Iesu o fewn cyrraedd i bawb, a phawb o fewn cyrraedd i Iesu!
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)