Y dydd heddiw, yn 1870 bu farw Charles Dickens (gan.1812). Fel hyn mae Dickens yn cyflwyno Mr Dombey: Dombey and Son. These three words conveyed the one idea of Mr Dombey’s life. The earth was made for Dombey and Son to trade in, and the sun and moon were made to give them light. Rivers and seas were formed to float their ships; rainbows gave them promise of fair weather; winds blew for or against their enterprise; stars and planets circled in their orbits to preserve inviolate a system of which they were the centre … AD had no concern with Anno Domini, but stood for Anno Dombey and Son.
Mae’r geiriau’n frawychus o berthnasol. Collodd Cymru ddiddordeb mewn crefydd - dyna sy’n esbonio capeli ac eglwysi gwag ein cyfnod. Nid gwrthwynebiad i grefydd yn gymaint, ond dim diddordeb! Nid llwyddo mo crefydd bellach, ond llwydo. Mae’r awydd i gadw-pethau-i-fynd-gorau-gallwn-ni oherwydd bod llai a llai o bobl yn dod i’r cwrdd, yn arwain ar fwy a mwy o gadw-pethau-i-fynd-gorau-gallwn-ni, ac o’r herwydd llai eto o bobl yn ymddiddori yn ein crefydda di-antur, dihyder.
Gall Siôn a Siân fyw yn hapus, a llwyddiannus ddigon heb ddarllen y Beibl, dysgu gweddïo a dod i’r cwrdd, ond mae byw yn hapus a llwyddiannus heb Dduw yn beth cwbl wahanol. Cyfryngau’n unig yw darllen y Beibl, dysgu gweddïo a dod i’r cwrdd. Cyfryngau i ddarganfod Duw, ac felly nid ydynt mor ddof (a diflas) ag y tybiwn. Heb arfer y pethau hyn llaciwn ein gafael ar Dduw (nid yw ef byth yn llacio ei afael arnom ni, ond peth arall yw hynny). Wedi llacio ein gafael ar Dduw, mae bywyd yn newid.
Pan dderbynnir fod Duw yn bod, a bod ei gariad yn berthnasol i fywyd, hanfod ein bywyd wedyn yw perthynas. Duw a fi, mae perthynas rhyngom, po cosaf y dof at Dduw, cosaf y dof ataf fi fy hun, a po cosaf y dof ataf fi fy hun, cosaf y dof at ddeall ystyr ‘Ni’.
Wedi gollwng Duw o’r neilltu, hanfod bywyd o’r herwydd yw ‘Fi’. O ddewis byw heb Dduw, daw ‘Fi’ yn bwysicach na ‘Ni’. Try gwleidyddiaeth yn ddim amgenach na phleidleisio ‘Fi’; a thry’r economi ar echel y prynwr ‘Fi’. Cymaint ein I-strain fel na welwn dim amgenach na ‘Fi’: AD had no concern with Anno Domini, but stood for Anno Dombey and Son. Mae ‘Fi’ yn erydu cymunedau, yn dibrisio brawdoliaeth, yn treulio sodlau ymddiriedaeth.
Mae presenoldeb neu absenoldeb Duw yn ein bywyd yn gwneud gwahaniaeth anferthol yn ein byw. Ni ellid gwthio Duw o’r neilltu, heb wthio peth wmbredd o bethau allweddol pwysig o’r neilltu hefyd: ein dyhead am wirionedd, ein gwybodaeth o dda a drwg, ein hawl i urddas, ein gallu i greu rhywbeth a fydd yn gwrthsefyll dinistr di-weld amser.
Dim ond hwb, cam a naid sydd rhwng dewis byw fel Dombey and Son ag uffern ar y ddaear.
(OLlE)