ADOLYGU ... ARHOLIADAU!

 thithau yng nghanol dy adolygu, prin fod amser gennyt i ddarllen unrhyw beth ond dy nodiadau a’th werslyfrau; ond gall y Llyfr fod yn gymorth wrth fynd i’r afael â’r llyfrau; gall y Gair helpu gyda’r holl eiriau sydd angen i ti ddeall, dehongli a chofio. Mae ambell adnod yn adnodd adolygu!

Dyma weddi fach i’th gynnal trwy’r arholiadau:

Fy Nuw, ein Tad, dyro gymorth i mi wrth baratoi i’r arholiadau hyn ...

Rho i mi, os gweli’n dda o’th DDOETHINEB:

Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd.

(Diarhebion 3:19 beibl.net)

Pan mae’r gwaith yn drwm, a dal ati i ddal ati yn anodd ...

Os gweli’n dda, rho i mi DDALIFYNDRWYDD:

Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw.

(Iago 1:12 beibl.net)

Fe ddônt i ben ...

Daw diwedd i’r adolygu ...

Rho i mi, os gweli’n dda HUNANDDISGYBLAETH:

Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae’n boenus!) - ond nes ymlaen dyn ni’n gweld ei fod yn beth da.

(Hebreaid 12:11 beibl.net)

Yng nghanol yr holl boeni - fi’n poeni; anwyliaid yn poeni amdanaf ...

Os gweli’n dda, rho i mi, ac i bawb sydd yn annwyl gennyf YMDDIRIEDAETH:

Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.

(Philipiaid 4:13 BCN)

Bendithia fi, nawr a phob amser â sicrwydd o’th FENDITH:

Plîs bendithia fi ... Cynnal fi! Cadw fi’n saff ...

(1 Cronicl 4:10 beibl.net)

Amen.