'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Bydded i chi Lawenydd y Pasg, sef Gobaith; Ysbryd y Pasg, sef Bywyd, a sylwedd y Pasg, sef Cariad.

Testun ein sylw bore Sul (10:30) fydd geiriau Pilat: Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch (Mathew 27: 66). Gwyddom un ac oll rywbeth am geisio gwneud y bedd mor ddiogel ag y gallwn - rhag ofn y wyrth. Ofn a gofid yw prif liwiau ein cyfnod. Clywsom cymaint o newyddion drwg fel nad ydym bellach yn medru ei glywed. Neges y Pasg yw bod popeth yn iawn. Iesu sy’n dweud hyn. Mae ganddo’r hawl i ddweud hyn oherwydd ei fod yn gwybod beth yw bod yn annwyl gan, ac yn amddifad o Dduw. Fe all ddweud hyn oherwydd iddo godi o farw’n fyw. Bywyd a orfu - ei fywyd yntau a orfu - ac felly nid oes pendraw i brydferthwch, rhyfeddod a bendith ein bywyd ninnau. Nac ofnwn! Ni ellir atal y Bywyd hwn. Cododd Iesu.

Liw nos am 18:00, Oedfa Gymundeb: torri bara yn Emaus, bwyta pysgodyn wedi ei rostio yn Jerwsalem. Awgryma Owain yn ei homili nos Sul nad mater o ddaeargryn, ac maen trwm wedi ei dreiglo i ffwrdd, angel neu angylion, llieiniau wedi eu plygu’n daclus, peraroglau a  garddwyr yw’r Pasg mewn gwirionedd ond yn hytrach bwyta a chyd fwyta. (Luc 24:36b-48) Wrth y bwrdd, darganfyddwn y Crist byw. Mae Iesu'n treulio Sul y Pasg yn bwyta. Daw’r Pasg yn real i’r disgyblion, nid wrth y bedd gwag ond o gwmpas bwrdd bwyd. Felly, nos Sul, yn hytrach na mynd at y bedd gwag, awn o fwrdd i fwrdd, a darganfod tamaid wrth damaid rhywfaint o ryfeddod y Pasg. Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.   

Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.