Pa un tybed, a bwniodd yr hoelion i’w lle?
Le Premier Clou (Yr Hoelen Gyntaf) gan James Tissot (1836-1902)
A bwniwyd yr hoelion trwy’r cnawd i’r pren, mewn dicter? o ddiléit? neu o ddyletswydd? - gwaith yw gwaith wedi’r cyfan ac mae’n rhaid i rywun gyflawni’r gwaith o ladd onid oes?
A gyflawnwyd y gwaith yn dwt, yn lân; neu a fu’r cyfan yn frysiog, anniben?
Ac wrth i’r hoelen suddo trwy’r cnawd i’r pren, a oedd rywbeth yn wahanol am y teimlad hwnnw, rhywbeth yn ddieithr: a deimlodd gwr yr hoelion hanes yn hollti o dan ergydion ei forthwyl?
A oedd yno i weld y diwedd, i glywed "Gorffennwyd"? Neu, a oedd adref gyda’i wraig, neu’n chwarae gyda’i blant; neu’n yfed gyda’i ffrindiau?
Pan ddaw Dydd y Dyddiau, a fydd hwn tybed, yn sefyll â maddeuant yn wawl o’i amgylch, ei bechodau yng nghrog wrth yr hoelion a bwniodd i’w lle?