Heno, eto, 'roedd PIMS ar waith yn warws Banc Bwyd Caerdydd. Da oedd cael cwmni Lowri a Lewis - bu pawb ohonom, trwy'r trwch, o'r ieuangaf i'r hynaf yn gweithio a chyd-weithio. Alun Treharne, un o wirfoddolwyr gweithgar Eglwys Minny Street yn y Banc Bwyd, a fu’n tywys 12 o PIMSwyr trwy weithgarwch y sesiwn. Yn gyntaf, sgwrs fer yn egluro sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio. Cyfraniadau o nifer o ffynonellau - eglwysi, ysgolion, archfarchnadoedd ac unigolion; y cyfan yn dod i’r warws lle caiff y nwyddau eu didoli, eu gwirio o ran addasrwydd (heb fod yn rhy hen, pecynnau cyflawn ac ati), ac yna sôn sut y’u dosberthir i’r chwe canolfan ar draws y ddinas... yn Llanedern, Llaneirwg, Splot, Trelái a’r Waun Ddyfal, ynghyd â’r City Temple. Yna, daeth yn amser i dorchi llewys! Yn gyntaf, dyddio pob nwydd sydd wedi dod i law. Rhaid yn gyntaf weld a ydy’r bwyd yn dderbyniol i’w rannu - chwilio felly am y ‘Best Before’. Os nad yw’n gyfredol, rhaid ei wahanu; nid yw’n dderbyniol i’r Banc Bwyd rannu bwyd a all fod yn hen. Yna, os yn gyfredol, labeli pob tin, pecyn a bocs gyda’r dyddiad priodol - hyn yn gymorth i sicrhau pa fwyd sy’n mynd allan o'r warws gyntaf. Braf a buddiol yw torchi llewys: ein cyffes mewn cymwynas a'n credo mewn caredigrwydd. Bydd PIMS yn ôl yn y warws yn y flwyddyn newydd.