Un o’r PIMSwyr ffyddlonaf - Mared - oedd yn arwain defosiwn ein Hoedfa Foreol heddiw. Ar ddechrau’r wythnos newydd hon, trawyd nodyn ‘Maddeuant’.
Dyma fyfyrdod a gweddi Mared yn llawn:
Mae rhai yn credu bod maddau yn un o’r pethau anoddaf i wneud. Mae maddeuant yn anodd gan ei fod yn gofyn i ni ildio ein hawl i daro’r pwyth yn ôl. Mae’n hawdd osgoi gwneud, gan ein bod yn gallu dewis y gwrthwyneb a dial ar eraill. Mi fyddai hyn yn cael ei ystyried yn dderbyniol i nifer o fewn y gymdeithas, gyda rhai hyd yn oed yn canmol neu’n gwobrwyo am ddial llwyddiannus.
Ond mae’n rhaid i ni gofio taw maddau yw’r peth iawn, hyd yn oed pan nad ydym yn teimlo fel gwneud. Un person sydd wedi maddau mewn amgylchiadau anodd ydy Antoine Leiris, a gollodd ei wraig yn nhrychineb Paris nos Wener ddiwethaf. Ysgrifennodd ef mewn llythyr agored:
"Ar nos Wener, fe wnaethoch ddwyn bywyd person eithriadol, fy ngwraig, mam fy mab, ond wnewch chi ddim cael fy nghasineb.
Dydw i ddim yn gwybod pwy ydych chi, nag eisiau gwybod chwaith. Os ydy Duw wedi ein creu ni yn ei ddelwedd Ef, roedd pob bwled yng nghorff fy ngwraig yn ergyd yn ei galon Ef.
Felly wna i ddim eich casáu chi. Efallai taw dyma yw eich dymuniad, ond byddai ymateb at gasineb gyda dicter yn golygu fy mod i'r un mor anwybodus â chi.
Wrth faddau, bydd fy nheulu yn byw mewn paradwys gyda’n heneidiau yn rhydd - rhywbeth na gewch chi fyth fynediad ato. Dim ond dau ydyn ni, fy mab a finne, ond rydyn ni’n gryfach na chi, ac yn gryfach na holl fyddinoedd y byd."
Nid yw ildio i ofn, neu ymollwng i gasineb yn mynd i iacháu’r byd. Mae maddeuant yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn dymuno, ond yn petruso i’w rhoi. Ond, mae maddeuant yn ddwy ochrog - rydyn ni’n gofyn i Dduw i faddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Rhaid cofio nad ydym yn medru disgwyl maddeuant heb roi maddeuant ein hunain.
O Dduw, rydym wedi blino clywed cymaint o sôn am ryfel ac ymladd mewn gwahanol rannau o’r byd. Gweld pobl debyg i ni’n cael eu hanafu a’u lladd oherwydd trais a therfysg. Helpa ni i gael heddwch yn y byd. Diolch i Ti am faddau i ni a helpa ni i faddau i eraill. Y mwyaf o gasineb fydd yn ein calonnau, y mwyaf anhapus fyddwn. Helpa ni i garu ein gilydd ac nid i gasáu. Amen.
Dafydd Iwan (Caernarfon) fu’n arwain yr Oedfa Foreol. ‘Roedd gwell canu o’r pulpud y bore hwn nag arfer felly! Daeth Dafydd â'i gitâr, ac ‘roedd y plantos a’r plant wrth eu boddau! Yn dawel, ar y dôn Kwmbayah, dechreuodd ganu: Rhywun yn hapus Arglwydd… yn chwerthin… yn diolch, ac yna...awgrymodd Dafydd iddynt, nad oedd pawb bob amser yn medru bod yn hapus; ac felly, gan barhau gyda'r gân... yn wylo… yn canu. Mi glywaf, mi glywaf y llais oedd nesaf, a’r gân yn gyfrwng iddo’n hatgoffa, o’r ieuengaf i’r hynaf, fod Duw yn galw arnom i addoli a gwasanaethu. Yn olaf, Mam wnaeth got i mi, ac yn sgil y canu, soniodd am bwysigrwydd gofalu am holl greadigaeth Duw.
'Roedd y plantos a'r plant ymhell ar y blaen i'r Gweinidog yn ei gwersi heddiw! Ag yntau ond wedi cyrraedd y rhif '3' 'roedd y bychain wedi brasgamu ymlaen i '99'! 'Roedd un ddafad ar goll (Luc 15:1-10), ac mewn ffydd, gyda gobaith, er mwyn cariad, 'roedd yn rhaid i'r bugail chwilio amdani.
Fe’n harweiniwyd gan Dafydd i’r Efengyl yn ôl Marc, ac i ddechrau’r drydedd bennod: stori’r dyn a’r llaw ddiffrwyth. Dyma enghraifft o wrthdaro rhwng Iesu a’r Phariseaid. Pan aeth Iesu un diwrnod i’r synagog yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo (Marc 3:1). Yn ôl Luc ei law dde oedd (6:1), ac y mae traddodiad mai saer oedd y dyn ac iddo apelio at Iesu i’w iachau fel y gallai gael ei waredu rhag gorfod byw fel cardotyn. Yn y synagog ar y pryd ‘roedd rhai o’r Phariseaid… yr oeddent â’u llygaid arno i weld a fyddai’n iachau dyn ar y Saboth (3:2). Gallasai Iesu fod wedi gohirio’r iachau tan drennydd, ond hytrach rhoes iachâd yn ddiymdroi i’r dyn. Ar ôl cyfiawnhau gweithred y disgyblion yn tynnu’r tywys ar y Saboth (Marc 2:23-28), mae Iesu’n iachau’r claf hwn fel enghraifft ymarferol o’r egwyddor honno. Ni ddylai llythyren y ddeddf lesteirio mynegiant ysbryd cariad yr Hwn a’i rhoes! Atgoffwyd ni gan ein cennad fod perygl, ym mhob oes a chyfnod i grefydd droi’n ddeddfol, oer, haearnaidd: crefydd y ‘na’. Nid oes newyddion da mewn peth felly, nid oes Efengyl mewn ‘na’. Dyna beth yw troi efengyl o chwith i gyd. Mynnai Dafydd mae’r ateb i grefydd y ‘na’, yw efengyl y ‘gwna’. Safiad positif, nid negyddol a ddylai fod gan Gristnogion. Pobl y ‘gwna’ ydym, nid pobl y ‘na’. Dyna oedd rhyfeddod Iesu Grist, dyna yw gogoniant Efengyl Iesu Grist: …gwna dithau yr un modd (Luc 10:37b). Mawr ein diolch i Dafydd am bregethu meddylgar a phregeth werthfawr.
Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.
Y Parchedig Eirian Rees (Efailisaf) oedd ein cennad yn yr Oedfa Hwyrol. ‘Roedd i’w sylwadau ddwy ffrwd yn seiliedig ar ddau gwestiwn i ni fel eglwysi: "Ble ‘rym ni?" a "Beth wnawn ni?". Cawsom ein hatgoffa mor hawdd yw colli golwg ar hyfrydwch a phwysigrwydd geiriau agoriadol Salm 133, a cholli gafael o'r herwydd, ar eu cymorth i fyw. Â ninnau yn byw mewn sŵn terfysg a thrais, nid llacio gafael, ond gafael yn dynnach sydd raid yn hyn o wirionedd: "Mor dda ac mor ddymunol yw i frodyr fyw’n gytûn." Tanlinellir yng ngweddill y Salm bwysigrwydd y parodrwydd i roi, i beidio dal yn ôl na dal dig. Nodwyd pedair thema a dylai fod yn gwbl ganolog i waith a chyfrifoldeb yr eglwys: tlodi (ac anghyfiawnder), hiliaeth (ac anghyfartaledd), yr amgylchfyd a pheidio rhyfela. Onid rhaid i eglwysi ymdrin â’r themâu yma mewn cariad ac yn enw gras os am wireddu dymuniad adnod agoriadol y Salm? Fe’n harweiniwyd wedyn at Ddameg yr Heuwr (Marc 4:1-9). Pwysleisiwyd gan Eirian nad hau had da'r Efengyl a wnawn er waethaf y dor calon sydd mor nodweddiadol o’n cyfnod, ond hau, hau, a pharhau i hau yn union oherwydd y dor calon honno. Hau gan mai hau sydd raid - hau, nid er mwyn cadw "pethau i fynd" ond hau had er mwyn, ac ar gyfer, y gymdeithas o’n cwmpas. Hau, gan iawn a llawn sylweddoli y bydd peth had yn syrthio a’r hyd y llwybr. Awgrymodd Eirian mai tramp traed y mwyafrif sydd yn creu llwybr, ac mae’r lliaws heddiw, os nad yn ein herbyn, yn llwyr ddifater ohonom fel pobl ffydd. Dyma’n union pam mae’n rhaid i ni barhau i hau. Y lleoedd creigiog? Ein dealltwriaeth gyfyng ninnau o’n ffydd yw'r lleoedd creigiog. Cyfyng ein deall, a chrebachlyd ein crefydda, ac felly mae'n rhaid hau had yr Efengyl; yr hau dygn hwn yw’r unig ymateb creadigol i’r fath grefydda ddof. Gan ein bod ni’n gwybod am y trwch o bethau, bach a mawr, sydd yn tyfu, yn a thrwy a thros egin gwyrdd ein ffydd - y tir dreiniog - rhaid parhau i hau. Parhawn i hau, gan wybod fod peth had yn syrthio i dir da, a bod yr Efengyl yn cael cyfle i dyfu. Neges fawr y ddameg yw na fydd yr ymdrech i hau gwirionedd Efengyl y cymod byth yn fethiant. Llwydda gyda rhai, a thrwy hynny, fe gyfiawnheir pob ymdrech a dyfalbarhad. Fe lwydda gyda rhai bob amser, ac felly, mae gobaith bob amser y gall brodyr, o’r diwedd, o’r hir ddiwedd, byw’n gytûn.
 ninnau bellach yn sefyll ar drothwy'r flwyddyn eglwysig newydd: Sul cyntaf yr Adfent; bydd y Gweinidog yn gosod pob cyfres gyfredol o bregethau o’r neilltu, gan ganolbwyntio’n hytrach, fesul oedfa ym mis Rhagfyr, ar ddarn gwahanol o gelfyddyd, yn amrywio o Michelangelo i Holman Hunt i Wassily Kandinsky. Ceir myfyrdod syml, a chyfnod o weddi’n seiliedig ar y gelfyddyd honno, a’r cyfan yn ein harwain fesul gam at ein gwylnos Noswyl Nadolig.
Eleni i’r teulu, darperir cyfle hwyliog i gadw Adfent. Erbyn Sul cyntaf yr Adfent (29/11), bydd y festri’n drwch o angylion! Pob un yn unigryw! Fesul diwrnod, bydd angen darganfod yng nghanol y dyrfa o’r llu nefol, un angel yn benodol, ac wedi’i ddarganfod, ei liwio. Yn gydiol wrth bob angel bydd adnod o’r Beibl. Bydd hyn oll yn digwydd ar draws ein hamrywiol gyfryngau: poster ar yr aelwyd, murlun yn y festri, gwefan a chyfrif trydar yr eglwys. Rhowch gynnig arni, beth bynnag bo’ch oedran! Dros gyfnod yr Adfent eleni, mynnwch ‘angel ac adnod’ bob dydd - jest y tonic sydd angen! Ymunwch yn yr hwyl, a phrofwch y fendith. Gweddïwn am wenau Duw ar ein paratoadau.
‘Roedd yn dda gennym fel eglwys i fod â rhan ym More Coffi a Ffair Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Festri Capel Salem, Treganna ddoe. Stondin gacennau Minny Street wedi llwyddo i gasglu dros £300 - y gorau erioed mae’n debyg. Diolch i bawb am ei gwaith.