Tymor yr Adfent - 3
Ioan Fedyddiwr yn yr Anialwch; o’r 15fed Ganrif gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). Oen; nant, dolydd a choed; adar a defaid; Jerwsalem yn y cefndir. Pioden. Ioan … yn hel meddyliau! Onid oes rywbeth ychydig yn ddigalon amdano? Mae’r bioden yn arwydd o dristwch. Cofier y llun Geni Iesu gan Piero della Franscesca; pioden ar do'r stabl ... yn llawenydd y Geni, tristwch y Groes. Digalonni yw’r demtasiwn barod yn ein plith fel crefyddwyr yn 2015. Llai na 5% o boblogaeth Cymru yn mynychu lle o addoliad ar Sul cyffredin ... nifer a dderbynnir yn aelodau yn lleihau ... prinder ymgeiswyr i’r weinidogaeth ... Cristnogaeth yn cyfrif fawr o ddim ym mywyd ein gwlad ... digalonni. Ond rhaid peidio digalonni! Nid pwysau ffasiwn, nac awydd am fod yn ‘barchus’, sy’n cymell y 5% i fynychu lle o addoliad; ac er gwaethaf anwybodaeth Feiblaidd, cynyddu a wna’r diddordeb yn y math o ddiwinydda a geisia bod yn berthnasol i fywyd heddiw. Sôn am bobl Crist, am Gristnogion, a wna’r Testament Newydd. Rhaid i ninnau ddilyn ei esiampl. Nid athrawiaeth uniongred na chyfundrefn eglwysig ddelfrydol yw cynnyrch arbennig yr Efengyl, ond unigolyn yng Nghrist. Wrth ochr yr Ioan digalon, Wele Oen Duw (Ioan 1:29a). Eistedd yr Oen yn dawel, yn gwbl gysurus. Er mor fychan a gwan ydyw, hwn a orfu. Codwn felly ein calonnau. Nid oes disgwyl i Gristnogion digalon allu cyflawni fawr o ddim. Colli hyder yw’r golled drymaf. Lle anobeithiol i Iesu lwyddo ynddo oedd Samaria, yn ôl y disgyblion ... efallai, ond yn Samaria y clywyd Iesu yn mynnu: ...codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i’w cynaeafu. (Ioan 4:35)
Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, c.1775 gan Anton Raphael Mengs (1728-1779). Yn y llun down wyneb yn wyneb ag Ioan tanllyd, peryglus a bygythiol. Ioan grymus ac egnïol. Ymaflodd Duw ynddo, fe’i meddiannwyd. Ceir gwirioneddau y gellir eu meddiannu; eu deall, eu dadansoddi a’u derbyn. Mae mathau eraill o wirioneddau sydd yn ein meddiannu ni. Gwirionedd felly yw cred yn Nuw. Duw sy’n gafael ynom ni, yn ein hawlio, ein hargyhoeddi a’n cyfareddu. Dyma Ioan y llun hwn! Yr Adfent hwn boed i ni estyn i Dduw’r cyfle i ymaflyd ynom o’r newydd. Fel y cydiodd gynt ym Moses a’i ddefnyddio i arwain pobl o gaethiwed yn yr Aifft, boed i Dduw ymaflyd ynom ninnau, a ninnau, o’r herwydd, yn cyhoeddi rhyddid, ac yn cydsefyll yn erbyn gormes ac anghyfiawnder. Boed i Dduw ymaflyd ynom, a ninnau, o’r herwydd, yn cyhoeddi Ei ewyllys i’n hoes a’n cenhedlaeth. Boed i Dduw ymaflyd ynom, i fod yn bobl i Dduw, yn deulu’r ffydd, yn gymdeithas yr Ysbryd. Byddwn barod i gael ein meddiannu a’n defnyddio gan Dduw!
Ffresgo gan Domenico Ghirlandaio (1449-1494): Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, 1490. Saif Ioan ar graig: ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau angau y trechaf arni (Mathew 16:18). Yn ei law mae gwialen ar ffurf groes. Beth a wnawn ni felly? (Luc 3:10a), gofyn y bobl; Rhaid i ddyn, etyb Ioan, a chanddo ddau grys eu rhannu â dyn heb yr un crys, a rhaid i ddyn a chanddo fwyd wneud yr un peth (Luc 3:11). Yn dawel a disylw daw Iesu ar hyd yn llwybr tuag at Ioan a’i bobl; nid oes neb yn sylwi arno! Neb yn gweld bod gwrthrych y bregeth wedi cyrraedd! ...y mae un yn sefyll yn eich plith, un nad ydych chwi’n ei adnabod (Ioan 1:26) Ni yw’r bobl yn y ffresgo. Gellir bod mor brysur yn addoli a gwasanaethu Iesu, a chyflawni pethau da yn ei enw gan fethu ei adnabod, ag yntau yn sefyll wrth ein hymyl! Gweld Iesu ...â ninnau’n chwilio am le i barcio? ...yn chwilio am arian mân i dalu amdano? ...wrth siopa? ...yng nghanol cymhlethdodau llawen, a llawenydd cymhleth yr aelwyd? ...pan mae’r trên yn hwyr, y peiriant golchi yn gollwng, y cyfrifiadur yn ystyfnigo a’r ffôn yn canu’n ddiddiwedd? ...wedi blinon lân ar bob peth a phawb, ac â ni’n hunain? Dyna neges y llun! Heb na ffwdan na chynnwrf daw Iesu atom; yn y ffyrdd mwyaf amgen, ar yr adegau mwyaf annisgwyl ac anghyfleus! Dyna pryd daw Iesu i ganol ein crefydda, i ganol ein bywyd ac i ganol ein byw.